Mae’r rhaglen Iechyd a Lles yn defnyddio strwythurau sy’n bodoli yn barod i ddod â phartneriaid o’r sectorau awyr agored ac iechyd ynghyd. Y bwriad ydi cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, gwella iechyd meddwl a chorfforol a darparu cysylltiadau â chlybiau a grwpiau cymunedol lleol i alluogi pobl i fyw bywydau egnïol tymor hir annibynnol.
Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar y maes ymchwil cynyddol sy’n rhagnodi gweithgareddau pobl ar gyfer eu hiechyd yn hytrach na meddyginiaeth ac fe’i gelwir yn bresgripsiynu cymdeithasol

Datblygwyd ein rhaglen Iechyd a Llês i ddechrau yng Ngogledd Cymru yn 2019 gyda chyllid gan gronfa Iach ac Egnïol Llywodraeth Cymru.
Roedd y prosiect Agor Drysau i’r Awyr Agored yn gydweithrediad rhwng y Bartneriaeth Awyr Agored, timau Iechyd Meddwl Cymunedol ar draws Gogledd Cymru, darparwyr gweithgareddau awyr agored lleol yn yr ardal a sefydliadau’r trydydd sector.

Bu i werthusiad annibynnol ddangos, am bob £1 a fuddsoddwyd yn y prosiect, fe gynhyrchwyd £5.36 o werth cymdeithasol i gyfranogwyr.
Yn ogystal, roedd cyfweliadau â chleientiaid yn dangos cynydd mewn llês meddyliol (69%), hyder (54%), cysylltiad cymdeithasol (57%), a iechyd cyffredinol (44%) o ganlyniad i gymryd rhan yn y prosiect (Prifysgol Bangor, 2022).

Budd Cymdeithasol ar Fuddsoddiant (SROI)
Mae dadansoddiad Budd Cymdeithasol ar Fuddsoddiad wedi ei gynnal gan Brifysgol Bangor ar ein rhaglen Agor Drysau i’r Awyr Agored.
Amlygodd y ddamcaniaeth newid y canlyniadau canlynol ar gyfer cyfranogwyr;
Damcaniaeth Newid