Prosiect Cymraeg newydd yn annog y cyhoedd i fod yn anturus yn yr awyr agored

Cynhaliwyd lansiad prosiect diogelwch awyr agored cenedlaethol, a ariannwyd yn rhannol gyda £40,000 o arian Llywodraeth Cymru, ym Mhlas Menai ddydd Mercher 5 Gorffennaf 2018.

Mae Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, Plas Menai, yn gartref i dros 300 o blant ysgol ac aelodau o’r cyhoedd a fydd yn ymweld â’r ganolfan i gymryd rhan mewn sesiynau Nofio Diogel yr RNLI, yn ogystal â chwrdd â’r gwasanaethau brys a phartneriaid chwaraeon a fydd yn cynnig cyngor ar ddiogelwch yn yr awyr agored.

Yn ystod y digwyddiad lansiwyd Antur Doeth Cymru, prosiect newydd cyffrous sydd wedi’i ariannu gan Croeso Cymru.

Mae’r prosiect, sydd â’r nod o’n cadw’n ddiogel tra’n mwynhau gweithgareddau awyr agored, yn annog gweithio mewn partneriaeth a syniadau arloesol a fydd yn denu mwy o ymwelwyr i Gymru.

Yn etifeddiaeth i Flwyddyn Antur 2016, bydd Antur Doeth Cymru yn manteisio ar flynyddoedd thema Croeso Cymru wrth i ni symud i Flwyddyn y Môr ar gyfer 2018.

Dywedodd yr Ysgrifennydd economy, Ken Skates: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect pwysig hwn a fydd yn dechrau’r sgwrs rhwng y sefydliadau niferus sydd am i bobl fwynhau awyr agored Cymru yn ddiogel. Gan weithio gyda’n gilydd, byddwn yn datblygu ac yn hyrwyddo negeseuon clir, a fydd yn galluogi pobl i fod yn antur graff a mwynhau eu hamser yn yr awyr agored yn ddiogel.”

Dan arweiniad y Bartneriaeth Awyr Agored, mae gan y prosiect gefnogaeth gan bartneriaid allweddol o bob rhan o Gymru gan gynnwys Timau Achub Mynydd, yr Heddlu, Parciau Cenedlaethol, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, RNLI, Awdurdodau Lleol, Chwaraeon Cymru a llawer mwy.

Dywedodd Tracey Evans, Prif Swyddog Gweithredol y Bartneriaeth Awyr Agored: “Rydym yn gyffrous i gael dechrau ar y gwaith o arwain y prosiect newydd hwn a gweithio gyda phartneriaid i alluogi cymunedau lleol i fod yn hyderus ac yn anturus. Amcanion y prosiect yw creu Cymru iach a mwy cyfartal o gymunedau cydlynus ac edrychwn ymlaen at ei gydlynu ac ymdrechu i gyflawni hyn.”

Mae’r prosiect hwn yn un o 38 o brosiectau ledled Cymru sydd wedi’u hariannu â £2 filiwn trwy Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol Croeso Cymru a Chronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth – a gynlluniwyd i gyflawni prosiectau arloesol i gefnogi blynyddoedd thema Croeso Cymru.

Er bod gan y Digwyddiad Awyr Agored neges ddifrifol am ddiogelwch, roedd hefyd yn cynnwys llawer o weithgareddau hwyliog ac arddangosiadau gan Fad Achub Biwmares, Chwilio ac Achub a Chŵn Achub Newfoundland.

Cafodd ymwelwyr yn y digwyddiad rhad ac am ddim gyfle i siarad am yrfaoedd a chael gwybodaeth gan y gwasanaethau amrywiol a oedd yn bresennol, gan gynnwys Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru a’r Awyrlu Brenhinol.

Dywedodd Hope Filby o Blas Menai: ‘Fel y lle cyntaf yng Nghymru i redeg y cynllun Nofio’n Ddiogel y llynedd, rydym yn falch o’i gynnal eto yr haf hwn a’i gysylltu â digwyddiad sy’n hybu diogelwch yn ehangach. Mae digwyddiadau ymwybyddiaeth fel y rhain yn bwysig iawn i deuluoedd lleol a thwristiaid fel ei gilydd ac mae gennym ni amserlen lawn i bawb ei mwynhau, yn rhad ac am ddim.”

Gwnewch eich diwrnod da yn well
Yn y gaeaf
Yn, Ar ac O Gwmpas Dŵr