Ers sefydlu yn 2004, rydym wedi canolbwyntio ar ddatblygu continwwm sy’n ysbrydoli pobl leol i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored fel gweithgaredd gydol oes. Mae hyn yn cynnwys cefnogi clybiau gweithgareddau awyr agored presennol a sefydlu rhai newydd mewn cymunedau lleol ar draws yr holl ranbarthau rydym yn gweithredu ynddynt.
Un o’r heriau mwyaf a wynebodd clybiau ar y dechrau oedd recriwtio hyfforddwyr lleol, cymwysedig. Felly, gyda chymorth tîm staff y Bartneriaeth Awyr Agored, recriwtiodd y clybiau hyfforddwyr awyr agored cymwys o ganolfannau addysg awyr agored awdurdodau lleol i’w helpu i sefydlu eu hunain, denu aelodau newydd a chynnig cyfres o sesiynau clwb. Nid oedd y model hwn yn gynaliadwy, ac roedd angen rhaglen Addysg Hyfforddwyr i helpu i gefnogi pobl leol ar y daith i ddod yn arweinwyr gwirfoddol cymwys.
Her arall i’w goresgyn oedd bod angen i wirfoddolwyr yn yr awyr agored ennill sgiliau arbennig, sy’n aml yn cael eu hennill drwy brofiad dros amser. Mae ennill cymwysterau awyr agored yn cymryd llawer o amser, ymdrech a chost, felly i’r rhan fwyaf o arweinwyr gwirfoddol nid yw hyn yn realistig gyda phwysau ‘bywyd modern’.
Diolch i gyllid cychwynnol gan Chwaraeon Cymru, CGGC a Chyllid y Loteri Genedlaethol, fe wnaeth y Bartneriaeth Awyr Agored oresgyn y rhwystrau hyn drwy sefydlu, beth sydd bellach yn raglen llwyddianus o Addysg Hyfforddwyr. Mae’n raglen cynaliadwy a chynhwysol, gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored fel sefydliad, yn darparu cefnogaeth i glybiau awyr agored annibynnol yn y gymuned.
Mae’r rhaglen Addysg Hyfforddwyr yn cynnwys cefnogi gwirfoddolwyr mewn clybiau i gael mynediad at gyrsiau a chymwysterau, sy’n helpu gyda’u rôl yn y clwb, am bris gostyngedig, ac felly yn lleihau un rhwystr i’w gwirfoddoli.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi hyfforddi dros 8000 o wirfoddolwyr, sydd yn eu tro yn darparu cyfleoedd a hyfforddiant rheolaidd i filoedd o bobl leol o bob oed.