Mae’r rhaglen Llwybrau i Waith yn defnyddio gweithgareddau awyr agored i helpu pobl ifanc DACH (Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) a phobl ddi-waith hirdymor, yn ôl ar lwybr at ddysgu pellach, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth.
Mae Llwybrau i Waith hefyd yn cynnwys rhaglenni amrywiol mewn rhanbarthau penodol sy’n anelu i gynyddu nifer y bobl sy’n gwneud cais am swyddi hyfforddiant mewn canolfannau awyr agored a busnesau awyr agored yn yr ardal honno.