Mae’r Rhaglen Llwybrau i Waith wedi’i hanelu at bobl sy’n manteisio ar weithgareddau awyr agored am y tro cyntaf neu sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau personol a/neu broffesiynol, gan arwain at ffordd o fyw, gwirfoddoli a chyflogaeth fwy egnïol.
Sefydlodd y Bartneriaeth Awyr Agored y rhaglen Llwybrau i Waith yn 2010 yng ngogledd-orllewin Cymru (Ynys Môn, Conwy a Gwynedd) wedi ei gyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (Porth Ymgysylltu, Marchnad Lafur Canolradd a Chynhwysiant Gweithredol) i gefnogi pobl ddi-waith yn ôl i’r gwaith gan ddefnyddio gweithgareddau awyr agored.
Mae’r rhaglen yn defnyddio gweithgareddau awyr agored i ymgysylltu gyda a chefnogi pobl ddi-waith i wella ffitrwydd corfforol, sgiliau cyflogaeth, hunan hyder, rhyngweithio cymdeithasol a gwella iechyd meddwl. Hefyd i ddarparu llwybrau i barhau mewn gweithgareddau, addysgu, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyfleoedd cyflogaeth. Ers 2010, mae’r rhaglen wedi helpu dros 700 o bobl ddi-waith ddychwelyd i gyflogaeth barhaol yng Ngogledd Orllewin Cymru.
Sgoriodd y rhaglen y ganran uchaf dros Nghymru o ran cael pobl ifanc i gyflogaeth barhaus fel rhan o’r prosiect ILM, oedd yn darparu profiad gwaith cyflogedig, mentoriaid a chymwysterau yn y diwydiant gweithgareddau awyr agored- daeth 96% o’r cyfranogwyr o hyd i gyflogaeth llawn amser (24 allan o 25 o gyfranogwyr) dros y prosiect 18 mis.
Mae ein prosiectau cyflogaeth yn aml wedi rhagori ar dargedau, hyd yma rydym ni wedi dychwelyd dros 700 o bobl i gyflogaeth barhaus neu addysg bellach ac addysg uwch, gydag Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddi o £4.42 yng Ngogledd-orllewin Cymru (Gwerth Cymdeithasol Cymru, 2020).
Manteision y Prosiect
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored bellach yn arwain ar sawl prosiect cyflogaeth ar draws Cymru gyfan, ac o fewn ein rhanbarthau yn Ayrshire, Cumbria, a Gogledd Iwerddon.
Am fwy o wybodaeth am bosiblrwydd o brosiectau cyflogaeth yn eich ardal chi, cysylltwch gyda’ch swyddog datblygu gweithgareddau awyr agored lleol:
Ryan oedd un o’r cyntaf i gymeryd rhan mewn rhaglen Llwybrau i Waith gyda ni, yng Ngogledd Cymru. Mae stori Ryan yn anhygoel, ac rydym mor falch o fod wedi chwarae rhan fach yn ei siwrnau.