Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi gweithio gyda Gethin Môn Thomas, i ddatblygu fframwaith canllawiau strategol:

Y Bartneriaeth Awyr Agored – Fframwaith Addysg Antur (TOP-ALF)

Mae Cwricwlwm i Gymru (2020) yn disgrifio cwricwlwm ysgol fel
‘Popeth y mae dysgwr yn ei brofi wrth fynd ar drywydd y pedwar diben.
Nid dim ond yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu, ond sut rydyn ni’n addysgu ac, yn hollbwysig, pam rydyn ni’n ei ddysgu’.

Fframwaith Addysg Antur Y Bartneriaeth Awyr Agored (TOP-ALF)

Mae TOP-ALF wedi’i gynllunio i gefnogi dysgwyr i symud ymlaen tuag at wireddu’r pedwar diben a datblygu sgiliau annatod. Mae dysgwyr sy’n symud ymlaen trwy Addysg Antur yn adlewyrchu cynnydd fel y disgrifir ym mhump egwyddor cynnydd. Mae addysg antur trwy weithgareddau awyr agored ac anturus yn darparu profiadau bywyd go iawn lle gellir caffael dysgu a gofnodir mewn datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a’u mynegi mewn Disgrifiadau o Ddysgu ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad (AoLE’s) a’u mireinio.

Bwriad y fframwaith yw cefnogi ysgolion wrth iddynt wneud penderfyniadau a chynnwys Addysg Antur fel rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol drwy gydol y flwyddyn. Mae TOP-ALF wedi’i  gynllunio i roi cyfle i ddysgwyr brofi amrywiaeth o weithgareddau awyr agored ac anturus dros gyfnod estynedig, mae’r profiadau’n cael eu trefnu i mewn i weithgareddau ar safle yr ysgol, ac oddi ar y safle / gweithgareddau preswyl.

Yn rhan annatod o TOP-ALF mae cyfleoedd i ddysgwyr gysylltu â’u cynefin. Yn ôl CfW, diffinnir cynefin fel: “y man lle rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n perthyn, lle mae’r bobl a’r tirwedd o’n cwmpas yn gyfarwydd, ac mae’r golygfeydd a’r synnau yn gysurus o adnabyddadwy”’. Mae archwilio ein cynefin trwy Addysg Antur ystyrlon a thrwy brofiad, yn helpu dysgwyr i wneud cysylltiadau â’u hamgylchedd, eu diwylliant a’u treftadaeth. Mae’n cyflwyno cyfleoedd i ddysgwyr ddeall a datblygu parch at yr amgylchedd lleol, cadwraeth ecosystemau a datblygu agweddau, gwerthoedd ac ymddygiadau cynaliadwy.  Bydd TOP-ALF yn  meithrin hyder yn y defnydd o adnoddau naturiol, a’u mwynhau. Bydd yn annog ac yn hyrwyddo mynediad a gweithgareddau cyfrifol yn yr awyr agored, tra’n cynnal a gwella’r adnoddau naturiol.

Wedi’i ymgorffori yn y fframwaith mae system ddyfarnu sy’n dathlu cynnydd dysgwyr mewn addysgu mewn meysydd gweithgaredd. Dyfernir ardystiad ar dair lefel, Efydd, Arian ac Aur, gyda phob lefel yn gofyn am ymrwymiad ychwanegol gan y dysgwr a’r ysgol.  Dyfernir y dystysgrif gan yr ysgol i ddysgwyr sy’n cyflwyno tystiolaeth ddigonol o gynnydd o fewn y nifer penodedig o weithgareddau ar bob lefel.

Bydd y Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio gyda darparwyr Addysg Antur i sicrhau eu bod hefyd yn gweithio i  ganllawiau TOP-ALF.  Bydd darparwyr yn cael eu cyflwyno i CfW ac yn cael hyfforddiant ar gyflwyno TOP-ALF yn ymarferol mewn lleoliadau oddi ar y safle a safleoedd preswyl.

I gael rhagor o wybodaeth am y Fframwaith Addysg Antur, cysylltwch â ni ar:

info@outdoorpartnership.co.uk