Yn ôl yn nyddiau cynnar 2003, comisiynodd y Bartneriaeth Awyr Agored astudiaeth a ddangosodd mai dim ond 4% o hyfforddwyr yn gweithio llawn amser mewn canolfannau gweithgareddau awyr agored yng Ngogledd Cymru oedd ag addysg uwchradd yng Nghymru ac yn siarad Cymraeg rhugl.

Saesneg oedd iaith o ddydd i ddydd gweithgareddau awyr agored ac roedd hyn yn dieithrio cyfran fawr o boblogaeth Gogledd Cymru, oedd yn draddodiadol yn gweld gweithgareddau awyr agored fel rhywbeth i dwristiaid yn unig.

Roedd angen newid hyn!

Datblygu Clybiau

Mae ein rhaglen Datblygu Clybiau wedi bod yn gam enfawr wrth fynd i’r afael â hyn.

Yn rhedeg ers 2005, drwy ddatblygu sgiliau a chymwysterau trigolion lleol, mae wedi agor y sector awyr agored i bobl na fyddent wedi cael y cyfle o’r blaen. Drwy hyfforddi miloedd o wirfoddolwyr clybiau sy’n cefnogi cannoedd o glybiau gweithgareddau awyr agored o fewn cymunedau ledled Cymru, rydym wedi mynd rhywfaint o’r ffordd i newid hyn. Mae hyn yn golygu fod clybiau a grwpiau lleol yn darparu gweithgareddau yn yr amgylchedd leol a thrwy gyfrwng y Gymraeg.

Diweddariad ymchwil

Mewn astudiaeth diweddar gan Calum Muskett;

CYFLWR PRESENOL DARPARIAETH GWEITHGAREDDAU AWYR AGORED YNG NGHYMRU

darganfuwyd bod y nifer o hyfforddwyr llawn-amser yn gweithio mewn canolfanau awyr agored, sy’n siarad Cymraeg, wedi cynyddu i 25%, erbyn 2019.

 

Bant â Ni

Mae Bant â Ni  yn brosiect sydd wedi’i gynllunio i greu a chefnogi rhwydwaith o hyfforddwyr awyr agored a cyfranogwyr sydd naill ai’n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf neu sy’n dysgu Cymraeg. Deilliodd y prosiect allan o angen a nodwyd gan Swyddogion Datblygu Y Bartneriaeth yn rhanbarthau Bae Abertawe a Chanolbarth Cymru; bod llawer o randdeiliaid yn eu hardaloedd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddarparwyr a allai ddarparu gweithgareddau awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hyn yn cynnwys Mentrau Iaith ac ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae hyfforddwyr Cymraeg eu hiaith yn bodoli ond nid oes bas data ganolog lle gall cleientiaid chwilio am ddarparwyr addas. Fe wnaethom hefyd nodi bod cefnogaeth gyfyngedig ar gael i hyfforddwyr awyr agored a fyddai’n hoffi datblygu eu Cymraeg mewn amgylchedd penodol awyr agored.

Y syniad y tu ôl  i Bant â Ni yw creu rhwydwaith a threfnu sesiynau gweithgaredd anffurfiol, lle gall cyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau siarad Cymraeg mewn amgylchedd trochi , h.y. trwy redeg neu gymryd rhan mewn gweithgaredd awyr agored. Mae hefyd cyfleoedd cymdeithasol a rhwydweithiol sy’n datblygu yn naturiol allan o sesiynau o’r fath, ac yn eu tro yn gwella’r cyfleoedd dysgu a’r posibilrwydd cyflogaeth i’r rhai sy’n cymryd rhan.

Hyd yn hyn rydym wedi cynnal 3  sesiwn ymgysylltu Bant â Ni,  mewn Padlfyrddio, Dringo a Ogofa. Roedd y rhain yn gyfle i unigolion ymarfer eu sgiliau iaith a’u sgiliau gweithgaredd! Ac mae bwyd da bob amser yn gysylltiedig rhwysut!

Hyfforddi Arweinwyr Mynydd yn Gymraeg

Clwb Cymraeg yw Clwb Mynydda Cymru  a sefydlwyd dros 40 mlynedd yn ôl, gyda’r nôd o hyrwyddo a galluogi mynydda drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r clwb wedi bod yn gysylltiedig â ni yn y Bartneriaeth Awyr Agored ers blynyddoedd lawer. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu pryderon o fewn y clwb am ddyfodol y clwb. Fel sy’n digwydd gyda llawer o glybiau, roeddent yn cydnabod yr angen i ddenu aelodau newydd i sicrhau hirhoedledd y clwb.

Daeth y pwyllgor at ei gilydd, ac ynghyd ag awgrymiadau gan yr aelodau, cyflwynwyd rhai newidiadau yn narpariaeth y clwb; amrywiaeth ehangach o deithiau cerdded (pellter/difrifoldeb), disgrifiadau cerdded wedi’u graddio, sesiynau blasu wedi’u hysbysebu’n dda i’r cyhoedd ddod ar deithiau cerdded, a datblygu Ap newydd i’r clwb.

Bu hyn yn llwyddianus yn denu aelodau newydd i’r clwb, gan gynnwys nifer o aelodau iau ac aelodau oedd yn awyddus i ddysgu mwy a datblygu sgiliau er mwyn gwirfoddoli ac arwain teithiau i’r clwb.

Bu’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio gyda’r clwb ar y dasg hon. Gan adnabod sawl aelod a oedd â phrofiad addas ac yn awyddus i gychwyn ar y cwrs hyfforddiant Arweinydd Mynydd, aethom ati i drefnu cwrs yn arbennig i’r aelodau yma. Ychydig iawn o gyrsiau hyfforddi Arweinydd Mynydd sy’n cael eu cynnal yn y Gymraeg, felly buom yn gweithio gyda darparwr a hyfforddwyr lleol i drefnu cwrs pwrpasol ar gyfer y grŵp. Roedd hyn yn caniatáu i bawb allu dilyn cwrs Hyfforddiant Mynydd yn eu hiaith frodorol a mwynhau’r hyder ddaeth yn sgil hyn.

Y nôd drwy uwchsgilio’r aelodau hyn, ydi bod aelodaeth y clwb cyfan yn ennill ar well gwybodaeth, a bydd yr hyfforddeion newydd yn mynd ymlaen i ddod yn arweinwyr rheolaidd i’r clwb. Gobeithio y bydd hyn yn sicrhau hirhoedledd y clwb am flynyddoedd lawer i ddod, gan sicrhau bod cenhedlaeth arall o fynyddwyr lleol, Cymraeg eu hiaith yn gallu mwynhau’r mynyddoedd yn ddiogel.

Diolch yn fawr  i Snowdonia Mountain Skills, Merfyn (Smyrf) Jones Hike and Bike Snowdonia a Dewi Emlyn am eu cymorth yn cynnal y cwrs yma.

Mae gan y Bartneriaeth Awyr Agored Gynllun Iaith Gymraeg a gymeradwywyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ac mae’n defnyddio’r Gymraeg fel ei dull cyfathrebu bob dydd ac yn sicrhau bod yr holl gyfathrebu’n ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf.
Rydym yn gweithio tuag at allu darparu mwy o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn parhau i annog y sector i ddefnyddio mwy o Gymraeg o ddydd i ddydd.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cael ein cydnabod am ein hymrwymiad i’r Gymraeg gan Wobrau Elusennau Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymru.

Ein nod yw gwneud defnydd o’r Gymraeg yn y sector awyr agored yn arferol.