Lansiwyd y cynllun Antur y Ferch Hon gan y Bartneriaeth Awyr Agored yn 2015, i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb o ferched yn y sector awyr agored. Mae merched yn cael eu tangynrychioli o fewn cymhwysterau arwain awyr agored, ac mae hyn yn dod yn fwy amlwg wrth i lefel y cymhwysterau fynd yn uwch. Mae’r nifer o ferched sydd yn meddu ar y cymhwysterau uchaf mor isel a 4% o’r cyfanswm o arweinwyr. (IOL Linda Allin, Prifysgol Northumbria 2021).
Nôd Antur y Ferch Hon yw ysbrydoli mwy o ferched a genethod i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored a mwynhau’r buddion y gall yr awyr agored eu cynnig i iechyd a lles cymdeithasol, ac yn y pen draw gweld gyrfa posibl o fewn y sector.
Rydym yn ysbrydoli merched a genethod i fod yn actif drwy weithgareddau cymdeithasol a chyfeillgar gan gynnwys dringo, cerdded, caiacio, canŵio, beicio mynydd, sgïo, syrffio, nofio dŵr agored a rhedeg llwybrau a mynyddoedd.
Mae’r sesiynau hyn yn hwyl, yn ddiogel, yn bleserus ac yn addas i bawb, ac yn cael eu darparu gan hyfforddwyr cymwys a profiadol.
Dewch i ymuno yn yr hwyl i fagu hyder, ffitrwydd a ffrindiau newydd.
Mae gweithgareddau a chyfleoedd yn cael eu hysbysebu yn gyffredinol drwy ein grŵp Facebook This Girls Adventure
Roedd Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn cael ei gynnal yn mis Mawrth yn 2023, ac fe wnaethom ei ddathlu mewn steil ar draws ein holl ranbarthau!
O sesiynau Cyflwyniad i Gaiacio a gynhaliwyd gan Glwb Canŵio Copeland yn Cumbria, i sesiynau hyfforddi Beicio Mynydd dan arweiniad merched yn Rhondda Cynon Taf, i sesiwn padlfyrddio a chyflwyniad ysbrydoledig gan Merched y Môr (4 merch anhygoel sy’n hyfforddi i fod y criw benywaidd cyntaf o Gymru i rwyfo ar draws yr Iwerydd), yn sicr roedd digon o gyfleoedd i ddathlu yr holl ferched gwych sy’n cymryd rhan yn yr awyr agored bob dydd, ar bob lefel.
Gan weithio gyda’r tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chwaraeon Ieuenctid (EYST) yn Abertawe, fe ddatblygom raglen benodol i annog menywod i gael mynediad i’r awyr agored. Gyda diddordeb cychwynol mewn teithiau cerdded lefel isel, dyfeisiwyd rhaglen 4 wythnos ar gyfer y grŵp, ochr yn ochr â’r darparwr lleol, Tread Gower. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar lwybrau cerdded arfordirol, a gyda’r nod o adeiladu’r pellter a’r hyder, ochr yn ochr â sgiliau, a chyfle i ddysgu llwybrau newydd. Derbyniodd y rhaglen adolygiadau gwych.
Yn dilyn y sesiynau, mwynhaodd yr aelodau gyfleoedd i gymryd rhan ymhellach mewn sesiynau agored a digwyddiadau mwy fel Gŵyl Gerdded Gŵyr – digwyddiad cymunedol gwych, gan ganiatáu cyfleoedd i bawb brofi’r teithiau cerdded gwych sydd ar gael ym Mro Gŵyr!