Presgripsiynu Cymdeithasol Tir i Ddŵr

Gan ddatblygu’r rhaglen Iechyd a Lles ymhellach, fe wnaethom ymuno ag Adferiad ac yn benodol y Tîm Ymyrraeth Gynnar yn Adferiad ar brosiect peilot, i gynnig cyfle i bobl ifanc rhwng 18 a 34 oed archwilio’r awyr agored trwy raglen Presgripsiynu Cymdeithasol Tir i Ddwr.

Gan weithio’n agos gyda 2 ddarparwr lleol, roedd sesiynau’r rhaglen yn seiliedig ar ymchwil o amgylch Ecotherapi;  math ffurfiol o driniaeth therapiwtig sy’n cynnwys gwneud gweithgareddau awyr agored ym myd natur, ac yn cynnwys trochi dŵr oer a’r holl fanteision y mae hyn yn ei roi. Rhoddodd y rhaglen gyfle i gyfranogwyr ddysgu am natur a’u hamgylchoedd ar y tir, trwy weithgareddau crefft a theithiau cerdded tywysedig, yn ogystal â chyflwyniad diogel a thawel i nofio dŵr agored.

Prosiect Presgribsiynu Cymdeithasol Tir i Ddŵr
Sesiynnau Cerdded a Nofio / Hike and Dip

Dyma esiampl gwych o arferion da yn cael eu rhannu rhwng ein rhanbarthau; mae ein  sesiynau Cerdded a Nofio / Hike and Dip wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Mae buddion nofio awyr agored a trochi dŵr oer wedi eu nodi yn aml, ac mae’r cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy’n trio’r gweithgaredd wedi rhoi syniad i ni, i gael hyd yn oed mwy o bobl i ymddiddori.

Mae ein  sesiynau Cerdded a Nofio / Hike and Dip, a ddechreuodd yn Sir Benfro, a bellach wedi lledaenu cyn belled â Swydd Ayr, yn cynnwys cyfleoedd i gyfranogwyr ymuno ar deithiau cerdded hardd a chael eu tywys drwy’r camau petrus cyntaf hynny i drochi dŵr agored. Gall y manteision iechyd corfforol a meddyliol a geir o’r gweithgaredd fod yn hynod fuddiol.