Bydd y Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio gyda chlybiau, ysgolion, unigolion ac arbenigwyr i gynyddu cyfleoedd i bobl yng Nganolbarth De Cymru gyflawni eu potensial drwy weithgareddau awyr agored, cyfranogiad gweithredol, gwirfoddoli, hyfforddiant ac addysg.
Leila Connolly yw ein Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored yng Nganolbarth De Cymru. Mae’n gweithio ar draws Caerdydd, Penybont, Merthyr, Rhondda Cynon Taf and Bro Morgannwg.
Gallwch weld yr holl sy’n mynd ymlaen yn yr ardaloedd yma drwy ddilyn Leila ar y cyfryngau cymdeithasol:
https://www.facebook.com/profile.php?id=100071070867184
Leila Connolly (@outdoorpartnership.csw) • Instagram photos and videos
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi bod yn tyfu cyfleoedd a chyfranogiad ar draws y rhanbarth. Dyma gipolwg o beth rydym wedi’u gyflawni…
Mae ein Rhaglen Antur Gynhwysol wedi bod yn fyw ac yn llawn hwyl! Rydyn ni wedi croesawu lot o grwpiau newydd ac wedi’u rhoi ar ben y ffordd gyda phadlo a dringo. O anturiaethwyr â nam ar eu golwg i bobl fyddar a thrwm eu clyw, pobl ifanc niwroamrywiol, ac unigolion sydd wedi cael profiad gofal – rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod antur awyr agored yn wirioneddol agored i bawb ar draws Canolbarth De Cymru.
Mae Partneriaeth Awyr Agored wedi bod yn falch o gefnogi dau ganolfan ddringo gwych yng Nghanolbarth De Cymru – Canolfan Ddringo Boulders yng Nghaerdydd a’r Summit Centre, Rock UK, ym Merthyr Tudful – i gynnig cyfleoedd dringo cyffrous i bobl ag anghenion cymhleth, unigolion niwroamrywiol, ac i bobl ag ystod eang o anableddau.
Er mwyn sicrhau bod dringo cynhwysol yn rhedeg yn esmwyth, mae Partneriaeth Awyr Agored wedi darparu cyllid ar gyfer staff, harneisiau ‘parasiwt’, ac offer arbenigol fel bod sesiynau’n gallu cael eu darparu’n ddiogel ac yn hyderus. Rydym hefyd wedi ariannu nifer o brosiectau presgripsiynu cymdeithasol ac wedi helpu sefydliadau eraill i gael mynediad at y cyfleusterau hyn. Mae grwpiau fel oedolion Sense ag anghenion cymhleth ac anableddau, y gymuned Fyddar a thrwm eu clyw, a phobl ifanc â nam ar eu golwg ymhlith y rhai rydym wedi’u cefnogi – gan wneud ein gorau i ddileu cymaint o rwystrau â phosibl fel bod pawb yn gallu mwynhau dringo.
Mae’r prosiect Dringo Cynhwysol hefyd wedi cefnogi sesiynau dringo misol rheolaidd. Mae’r rhain bellach wedi tyfu’n glybiau dringo misol cynaliadwy llawn yn y ddwy ganolfan – ac maen nhw’n parhau i fynd o nerth i nerth!
Buom yn gweithio ochr yn ochr â grŵp o fenywod ethnig amrywiol yng Nghaerdydd i helpu datblygu arweinwyr cerdded gwirfoddol newydd, gan eu cefnogi drwy’r hyfforddiant angenrheidiol i gwblhau eu cymwysterau Arweinydd Tir Isel. Nod y prosiect oedd meithrin hyder, darparu’r offer hanfodol, a helpu sefydlu grŵp cerdded cynaliadwy o fewn eu cymuned.
Wnaethom parhau i weithio gyda’r rhanddeiliad hwn ac eraill i gefnogi rhaglenni arweinydd cerdded ychwanegol, gan aros yn rhan o’r gwaith lle bynnag yr oedd angen, gan gynnwys drwy fentrau fel Antur y Merched. Datblygwyd dau becyn offer arweinydd cerdded gennym hefyd, a benthycwn i grwpiau cymunedol i’w cefnogi drwy eu hasesiadau arweinydd cerdded. Wrth ochr hyn, rydym yn parhau i gefnogi rhwydwaith eang o randdeiliaid wrth iddynt weithio drwy eu hyfforddiant a’u cymwysterau, gan eu helpu i ddilyn canllawiau’r CGB ac yn cynnig mentora pryd bynnag y bo angen.
Mae’r rhaglen Hyfforddiant Addysg Gwirfoddolwyr wedi cefnogi gwirfoddolwyr arbennig mewn clybiau awyr agored yn y rhanbarth.
Rydym wedi ariannu gwirfoddolwyr i wneud cyrsiau ac ennill cymhwysterau i ddatblygu eu clybiau, Mae hyn yn golygu fod y clybiau wedyn yn cynnig cyfleoedd i’r gymuned leol i gymeryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
Rydym hefyd wedi cefnogi clybiau i ymgeisio am grantiau eraill i ddiweddaru offer y clwb a gallu derbyn mwy o aelodau i’r clwb.
Mae nifer o gyrsiau Llwybrau i Waith wedi eu cynnal yn y rhanbarth.
Mae’r cyrsiau yn rhoi cyfleoedd i’r cyfranogwyr roi cynnig ar weithgareddau awyr agored ynghyd a hyfforddiant a cymhwysterau.
Ynghyd a’r cynlluniau ffurfiol, rydym wedi darparu cyfleoedd i bobol o bob oed a gallu i gymeryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored ar draws ardal Canolbarth De Cymru.
Bu cyfleoedd i syrffio, beicio mynydd, dringo, padlfyrddio, caiacio a sesiynnau bywyd gwyllt.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Antur y Merched wedi canolbwyntio ar rywbeth pwerus ac ysbrydoledig: Adferiad Canser y Fron drwy antur a chymuned. Dechreuodd y daith gyda sesiynau blasu ysgafn – fel coasteirio, dringo creigiau awyr agored, padlfeydio, rafftio dŵr gwyn, a diwrnodau cerdded‑a‑sawna tawel, ac unwaith eto mae wedi tyfu’n rhywbeth gwirioneddol hardd.
O’r rhaglen hon, ganwyd y Grŵp Antur Merched Gwyllt anhygoel. Mae llawer o’r merched a ymunodd â ni ar y daith hon wedi mynd ymlaen i gyflawni pethau rhyfeddol: cwblhau eu Cymorth Cyntaf Awyr Agored 16‑awr, cwblhau’r Hyfforddiant Arweinydd Tir Isel, ac hyd yn oed dod yn Lysgenhadon Gwirfoddol y Bartneriaeth Awyr Agored. Mae un llysgenhadwr bellach yn cefnogi ein Clwb Dringo Cynhwysol ac wedi cwblhau’n falch ei chymwysterau Dringo Dan Do Arwain a Chynorthwyydd Dringo Dan Do.
Daeth Chwaraeon Cymru atom hyd yn oed i ffilmio’r grŵp yn wynebu’r her o rafftio dŵr gwyn – diwrnod bythgofiadwy! Gallwch wylio’r fideo ar ein sianel YouTube: https://youtu.be/f4X1Hed_Y-k?si=UEXIiAelHz9jHstY
Os hoffech chi wybod mwy, neu os ydych yn glwb gweithgareddau awyr agored ac fe hoffech ddarganfod mwy, gallwch gysylltu gyda Leila ar 07872851395 neu leila.connolly@outdoorpartnership.co.uk.