Bydd y Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio gyda chlybiau, ysgolion, unigolion ac arbenigwyr i gynyddu cyfleoedd i bobl yn Ardal Bae Abertawe gyflawni eu potensial drwy weithgareddau awyr agored, cyfranogiad gweithredol, gwirfoddoli, hyfforddiant ac addysg.
Sioned Thomas yw ein Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored yn Ardal Bae Abertawe. Mae hi’n gweithio ar draws Sir Gaerfyrddin, Neath Port Talbot, Abertawe a Sir Benfro.
Gallwch gadw fyny gyda’r holl sy’n mynd ymlaen yn y rhanbarth drwy ddilyn cyfryngau cymdeithasol Sioned:
Facebook: Sioned Thomas | Facebook
Beth ydym wedi ei gyflawni hyd yn hyn?
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi bod yn weithgar yn rhanbarth Bae Abertawe ers Gorffennaf 2021. Dyma rai o’n cyflawniadau hyd yma:
- Hyd yma, rydym wedi trefnu dros 20 o sesiynnau yn uniongyrchol ar gyfer merched a genethod yn rhanbarth Bae Abertawe, sydd wedi rhoi cyfleoedd i dros 800 o ferched fynychu gweithgareddau awyr agored.
- Mae hyn wedi bod mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored gwahanol gan gynnwys hwylfyrddio, nofio awyr agored, darllen mapiau a mordwyo, a rhwyf-fyrddio.
- Digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol Menywod – dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi dathlu Diwrnod Rhyngwladol Merched drwy gynnal gweithgareddau awyr agored a chynnal digwyddiadau gyda siaradwyr benywaidd yn amlygu eu anturiaethau ac yn dathlu eu perthynas gyda’r awyr agored.
Dyma rai enghreifftiau o’r gwaith datblygu cymunedol rydym wedi bod yn ei wneud o amgylch rhanbarth Bae Abertawe ers dechrau yn 2021:-
- Wedi darparu cyfleoedd i bobl ifanc roi cynnig ar amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored yn eu hardaloedd lleol gan gynnwys nofio awyr agored, archwilio pyllau dwr ar lan y môr, fforio a sgiliau darllen map a mordwyo.
- Hefyd wedi mynychu digwyddiadau megis Gwyl Antur Yr Egin, yr Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl Ffilm Banff i dynnu sylw at y gwaith rydym yn ei wneud ar draws cymunedau Cymru.
- Cefnogi clybiau gweithgareddau awyr agored lleol dwy ymuno yn eu sesiynau codi sbwriel, Gwyl Afon a digwyddiadau ymgysylltu.
Mae dros 10 o glybiau wedi ymuno â’n Rhaglen Addysg Hyfforddwyr sydd wedi cefnogi dros 20 o wirfoddolwyr anhygoel o fewn clybiau gweithgareddau awyr agored yr ardal gan gynnwys Clybiau Achub Bywyd Syrffio, Padlo, a Hwylio.
I gael gwybod mwy am ein rhaglen Cefnogi Clybiau, dilynwch y ddolen isod:
Mae Bant a Ni yn raglen gychwynwyd yn 2022. Mae’r prosiect yn bartneriaeth ar draws Canolbarth Cymru ac Ardal Bae Abertawe, i ddatblygu rhwydwaith o hyfforddwyr awyr agored Cymraeg eu hiaith yn y rhanbarthau.
Nôd y prosiect yw cefnogi hyfforddwyr sy’n dysgu Cymraeg i godi hyder yn arwain gweithgareddau awyr agored drwy gyfrwng y Gymraeg drwy sesiynau ymarferol mewn cyd-destunau awyr agored go iawn, yn ogystal â chefnogi siaradwyr Cymraeg sydd â diddordeb ar yr awyr agored i ymuno â’r maes.
Roedd ein sesiwn gyntaf, Padlfyrddio a Pizza yn Llandysul, yn llwyddiant mawr. Ers hynny rydym wedi cynnal cyfleoedd dringo, e-feicio a fforio, a chyda mwy ar y gweill, cofiwch gysylltu â ni os hoffech gymryd rhan!
Mae ein rhaglen Antur i Bawb wedi galluogi pobl â chyfyngiadau symudedd a chyflyrau niwroamrywiol a’u teuluoedd i gael mynediad at amrywiaeth o weithgareddau antur awyr agored.
- Hyd yn hyn, rydym wedi trefnu sesiynnau Gallu Padlo, Sgïo Eistedd a Beiciau Addasol, dringo cynhwysol a theithiau cerdded cynhwysol.
- Gŵyl chwaraeon dŵr cynhwysol lle buom yn cydweithio â’r RNLI, Parc Cenedlaethol Sir Benfro, Ross Handling a Cerebra UK.
I ddod dros y misoedd nesaf…….
- Rhaglen gyflogadwyedd gyda Llamau
- Therapi antur a sesiynau byw yn y gwyllt
- Sesiynau ymgysylltu gofalwyr ifanc
Cynllun 5 wythnos, yn cyflwyno pobl ifanc o Adferiad (tim EIP) i’r Dŵr a’r Tir.
Buom yn darganfod y môr, llwybrau arfordir, rhaeadrau a coedydd.
Daeth tim rhaglen Coast and Country o ITV Cymru i ymuno â ni am ddiwrnod i gael blas ar ein cynllun!
Gwyliwch ein fideo yma:
Os hoffech wybod mwy neu os ydych yn glwb gweithgareddau awyr agored a hoffai gymryd rhan, cysylltwch â Sioned ar 07706735791 neu sioned.thomas@outdoorpartnership.co.uk.