Mae ein Rhaglen Datblygu Cymunedol yn cael ei harwain gan ein Swyddogion Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored, sy’n gweithredu fel galluogwyr a chatalyddion newid, gan ddod â chymunedau, sefydliadau a rhanddeiliaid at ei gilydd i gryfhau systemau gweithgarwch awyr agored lleol.
Trwy ddatblygu partneriaethau, adeiladu capasiti cymunedol a chefnogi sefydliadau i weithio’n gydweithredol, maent yn creu cyfleoedd cynaliadwy i filoedd o blant, pobl ifanc ac oedolion bob blwyddyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel rhan o ffordd o fyw gydol oes.
Mae’r dull hwn yn sicrhau bod llwybrau cyfranogiad yn ymestyn y tu hwnt i brosiectau unigol, gan greu newid hirdymor o brofiadau cyntaf drwy ddatblygu sgiliau, gwirfoddoli, arwain a chyflogaeth.
Mae ein swyddogion yn gweithio o fewn eu rhanbarth i sicrhau bod cysylltiadau rhwng ysgolion a chlybiau cymunedol a bod llwybrau clir i unrhyw un o bob oed a gallu gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
Mae’r rhaglen hefyd yn cefnogi clybiau gweithgareddau awyr agored. Mae’r clybiau hyn yn rhoi cyfle rheolaidd i filoedd o bobl leol gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn eu cymunedau, gan wella eu hiechyd personol a’u lles cymdeithasol.
Wedi ei gydlynu ar y cyd rhwng y Bartneriaeth Awyr Agored, RNLI, y Gymdeithas Achub Bywyd Brenhinol a sefydliadau eraill mewn gwahanol ranbarthau, mae’r rhaglen “Swim Safe” yn cyflwyno sesiynau hwyliog a phwysig i ddisgyblion ysgol i godi ymwybyddiaeth ac addysgu ar sut i fod yn ddiogel pan yn y dŵr neu yn agos at ddŵr, yn dysgu arddulliau arnofio ac egwyddorion diogelwch.
Mae’r rhaglen yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos Atal Boddi mewn sawl rhanbarth, mae cannoedd o blant yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru wedi elwa o’r sesiynau hyn, ac wedi ennill sgiliau a gwybodaeth werthfawr i’w cadw’n ddiogel pan fyddant mewn dŵr ac o’i gwmpas, ac i allu mwynhau nofio yn yr awyr agored yn ddiogel.