Mae Addysg Awyr Agored o’r Ansawdd Uchaf i Gymru yn adeiladu ar y ddogfen Addysg Awyr Agored Ansawdd Uchel wreiddiol a grëwyd gan Banel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored (OEAP) a Chyngor Awyr Agored Lloegr, gan osod y ddogfen mewn cyd-destun penodol i Gymru; yn plethu arferion gorau Addysg Awyr Agored gyda deddfwriaeth Llywodraeth Cymru a’r Cwricwlwm Newydd i Gymru.

Mae’r canllaw yn amlinellu yn glir y manteision dysgu ac addysgu yn yr amgylchedd naturiol ac fe’i hysgrifennwyd i’ch helpu i werthuso ac yna mynd ati i wella, neu wella ymhellach, ansawdd addysgu yn yr awyr agored.

Gellir gweld y ddogfen gyfan yma:

I gefnogi hyn, nodwyd deg canlyniad allweddol addysgu yn yr awyr agored gydag ystod o ddangosyddion a briodolir i bob un. Gellir defnyddio’r dangosyddion hyn i gefnogi unrhyw waith gwella a byddant yn aml yn cael eu gwella trwy weithio’n agos gyda phartneriaid.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gyda’i gilydd yn creu deddfwriaeth fodern ar gyfer gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae addysgu yn yr awyr agored yn cyfrannu at bob un o’r 7 Nod Llesiant yn ogystal â darparu cyfleoedd a gweithgareddau sy’n ehangu gorwelion o fewn amgylchedd dysgu traddodiadol yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.