Ar rai adegau mae angen gan glybiau i’w gwirfoddolwyr fynychu cyrsiau i helpu gyda’u rôl yn y clwb. Gallwn roi cymorth ariannol i wirfoddolwyr yn eich clwb fynychu cyrsiau penodol. I fod yn gymwys am hyn, bydd angen i’r clwb gael Aelodaeth Cyffredinol gyda cymorth Addysgu Hyfforddwyr. Mae cost o £150 y flwyddyn am yr aelodaeth yma.

Os yn dewis yr opsiwn yma o aelodaeth, byddwn yn sicrhau gwerth £500 o gymorth o fewn y cyfnod aelodaeth blwyddyn (Ebrill i Fawrth). Bydd unrhyw geisiadau dros y swm hwn yn ddibynnol ar ein cyllid. Gofynnwn i glybiau felly flaenoriaethu eu ceisiadau, yn seiliedig ar anghenion y clwb.

Os ydych yn aelod o glwb cymunedol sy’n chwilio am gefnogaeth i wneud cwrs, siaradwch â’ch clwb. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gefnogaeth i glybiau yma: