Bydd y Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio gyda chlybiau, ysgolion, unigolion ac arbenigwyr i gynyddu cyfleoedd i bobl ar Arfordir Gogledd Swydd Efrog gyflawni eu potensial drwy weithgareddau awyr agored, cyfranogiad gweithredol, gwirfoddoli, hyfforddiant ac addysg.
Sam Allum yw ein Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Arfordir Gogledd Swydd Efrog.
Mae yn rhan o dîm North Yorkshire Sport, ac yn gweithio yn ardaloedd arfordirol Gogledd Swydd Efrog (Scarborough, Whitby, Filey)
https://www.northyorkshiresport.co.uk/meettheteam
Yn ystod y misoedd diwethaf mae Sam wedi bod yn brysur yn cwrdd â gymaint o bobol a phosib; darparwyr gweithgareddau, gweithwyr awdurdodau lleol ac elusennau bychain. Y bwriad yw dod i ddeall beth sy’n digwydd yn yr ardal yn barod, beth fyddai pobl yr ardal yn hoffi weld yn digwydd, a beth yw’r rhwystrau sy’n atal hyn rhag digwydd. Ar ôl y gwaith ymchwil yma, ei fwriad ydi creu cynlluniau a phrosiectau fydd yn gweithio yn unswydd gydag ac ar gyfer pobl leol ac ateb eu gofynion.
Os hoffech wybod mwy cysylltwch gyda Sam ar 07742881531 neu sam.allum@outdoorpartnership.co.uk
https://www.facebook.com/TOPNorthYorks
https://www.instagram.com/top.northyorkscoast/