* Ydych chi wrth eich bodd gyda’r awyr agored neu wedi gwirioni gyda gweithgaredd arbennig?
* Fyddech chi wrth eich bodd yn rhannu y brwdfrydedd yma gydag eraill?
* Ydych chi yn byw yng Ngwynedd, ac a fyddech yn hoffi ein helpu annog mwy o bobol Gwynedd i fod yn actif yn yr awyr agored?
Rydym yn recriwtio Llysgenhadon Gwirfoddol i helpu pobl Gwynedd ddarganfod eu cariad am bopeth awyr agored!
  • Rydym yn chwilio am bobol gyda syniadau newydd a gwahanol i ddenu mwy o bobol yng Ngwynedd i gymeryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, mewn ffordd ddiogel.
  • Felly rhannwch eich syniad gyda ni, ac fe weithiwn gyda’n gilydd i’w wireddu!
  • Byddwn hefyd yn eich cefnogi gyda cymorth ariannol (hyd at £500 uchafswm) i fynychu cwrs o’ch dewis chi, unai fel gwbor am eich gwaith neu i helpu gyda’r syniad.
  • Efallai eich bod yn badlfyrddiwr brwd, ac eisiau ymweld a sefydliadau lleol i addysgu eraill sut i badlfyrddio yn ddiogel
  • Neu efallai eich bod yn dda gyda geiriau ag awydd sgwennu blog i ni fydd yn helpu eraill ddysgu am weithgareddu awyr agored
  • Oes ganddoch chi sgiliau technoleg, neu graffeg, neu yn dda ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn fodlon ein helpu gyda hyn?
  • Allech chi sbario amser i’n helpu mewn digwyddiadau cyhoeddus, neu helpu rhai o’r clybiau cymunedol sydd yn aelodau gyda ni?
  • Ydych chi’n hoff o grwydro neu gerdded mynyddoedd ac eisiau cyfle i rannu’r brwdfrydedd am yr ardal gydag eraill rhywsut?

Mae’r llawr ar agor. Chi biau’r syniadau!

Dyma gyfle cyffrous i ymuno efo ni yn y Bartneriaeth Awyr Agored, a derbyn cefnogaeth i wneud cwrs neu gymhwyster yr un pryd!

*Rhaid ymgeisio drwy gwblhau y ffurflen isod:

*Bydd pob ymgeisydd llwyddianus yn cael eu anwytho gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored, ac yn cael buddio o gyfleoedd hyfforddiant pellach.

*Byddwn yn gwirio drwy wasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) os yn berthnasol i’r rôl gwirfoddol.

*Nodwch: ni all Y Bartneriaeth Awyr Agored yswirio gwirfoddolwyr i arwain gweithgareddau; os bydd eich syniad yn cynnwys arwain grwpiau, bydd rhaid i’r weithgaredd gael ei yswirio mewn modd arall.

*Mae’n rhaid i’ch syniad gael ei drefnu a’i gynnal o fewn 2024, a bydd eich rôl fel Llysgenhad yn parhau am flwyddyn, o’r amser i chi gael eich dewis yn llwyddianus.

*Byddwch yn derbyn cefnogaeth gan ac yn gweithio gyda’r swyddog gwirfoddoli, ac unrhyw aelodau pethnasol eraill o dim Y Bartneriaeth Awyr Agored, a byddwn yn rhoi gwisg (siwmper) brand i chi ar gyfer  y rôl.

Dyddiad cau ceisiadau: 18fed o Fawrth 2024

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Os oes ganddoch unrhyw gwestiynau, neu os hoffech drafod eich syniad cyn cwblhau y ffurflen, cysylltwch gydag ein swyddog gwirfoddoli, Sian Williams:
sian.williams@partneriaeth-awyr-agored.co.uk
Ymgeisio i fod yn Llysgenhad Gwirfoddol
Ymgeisiwch yma: