Yn y Bartneriaeth Awyr Agored rydym yn gwerthfawrogi yn fawr iawn, cyfraniad gwirfoddolwyr. Mae ein rhaglen gwirfoddoli yn agored i unrhyw un sy’n dymuno gwirfoddoli yn y sector awyr agored a gallwn gynghori a chefnogi gwirfoddolwyr sy’n chwilio am gyfleoedd i helpu yn eu cymuned leol.

Mae ein prif raglen wirfoddoli yn canolbwyntio ar uwchsgilio a grymuso gwirfoddolwyr newydd a phresennol mewn clybiau a chymunedau lleol.

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill i gydlynu profiadau gwirfoddolwyr, a rhannu gwybodaeth am amrywiol gyfleoedd gwirfoddoli.

Gwirfoddolwr Clybiau ac Addysgu Hyfforddwyr
Cynllun Gwirfoddoli Caru Eryri
Llysgenhadon Gwirfoddol