Mae Insport yn rhaglen achredu Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n ceisio cefnogi’r sectorau gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden i ddod yn fwy cynhwysol o bobl anabl. Mae lefelau Rhuban, Efydd, Arian ac Aur ar gyfer clybiau, sefydliadau partneriaeth a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol.
Y Bartneriaeth Awyr Agored oedd y sefydliad partneriaeth cyntaf i gyrraedd gwobr Arian, yn ôl yn 2021, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio tuag at Insport Gold sy’n ymwneud â chreu newid trawsnewidiol yn y sector awyr agored.
Rydym yn credu y dylai’r awyr agored fod yn lle hygyrch gyda croeso i bawb. Mae’r achrediad hwn yn dangos ein hymrwymiad i gynnwys pobl anabl ym mhob agwedd o’r sector awyr agored; o gymryd rhan mewn hyfforddiant a mathau eraill o gyflogaeth a chynrychiolaeth. Mae hefyd yn ffordd o ddangos yr ymrwymiad hwn i sefydliadau a chlybiau eraill ac yn ei dro yn eu cefnogi ar eu taith eu hunain tuag at gynhwysiant.
Mae’r daith tuag at Insport Gold yn cynnwys casglu tystiolaeth sy’n dangos bod cynhwysiant yn ffurfio conglfaen ein sefydliad mewn tri prif faes:
- Datblygu’r gweithlu
- Cefnogi rhaglenni
- Strwythur sefydliadol
Yn ogystal â’r meysydd hyn, ar lefel Aur gofynnir i ni hefyd gynnal ymgynghoriad â defnyddwyr neu ddefnyddwyr posibl ein gwasanaeth i ddarganfod a oes unrhyw beth ychwanegol y gallem fod yn ei wneud fel sefydliad i gefnogi cynhwysiant. Mae’r nodau ychwanegol yn cael eu rhoi i banel proffesiynol i’w hasesu ac, ar ôl eu cymeradwyo, byddwn wedyn yn cyflwyno ein tystiolaeth yn erbyn y tri maes penodol ynghyd â’n nodau ychwanegol i ail banel sydd hefyd yn cynnal sgyrsiau proffesiynol gydag aelodau o’n bwrdd, aelodau o staff a buddiolwyr i asesu a ydym wedi cyrraedd y safon Aur.
Mae achrediad Insport Aur yn dangos safon uchel iawn o gynhwysiant ond i ni, dyma ddechrau yn hytrach na diwedd y daith.
Bydd targedau a gweledigaeth ymrwymiad y Bartneriaeth Awyr Agored i gynhwysiant yn cael eu hadolygu’n gyson a’u hailarchwilio i sicrhau bod sgyrsiau’n aros ar agor a’n bod yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ymdrechu tuag at gynhwysiant gweithredol.
Mae achrediad Insport Aur, ynghyd ag elfennau eraill o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (CAC) yn rhan sylfaenol o waith y Bartneriaeth Awyr Agored ac mae’n un o brif flaenoriaethau grwp gwaith CAC y Bartneriaeth Awyr Agored, dan arweiniad Bethan Logan (Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Canolbarth Cymru), ac yn cynnwys 9 aelod arall o staff gweithredol, gan gynnwys ein Prif Swyddog Gweithredol Tracey Evans.
Rydym hefyd yn cael cefnogaeth gan swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru Norman Greenhouse ac arweinydd CAC y Bartneriaeth Awyr Agored o fewn bwrdd yr ymddiriedolwyr, Jo Owen.
Os ydych chi’n cynrychioli clwb gweithgareddau awyr agored yng Nghymru, sefydliad partneriaeth neu gorff llywodraethu cenedlaethol ac yn dymuno cychwyn ar y daith Insport, dyma syniadau am eich cam nesaf:
- Ewch i dudalen Chwaraeon Anabledd Cymru am fwy o wybodaeth
- Cysylltwch â Beth Logan am sgwrs anffurfiol: 07706 734 285 neu bethan.logan@partneriaeth-awyr-agored.co.uk
- Cysylltwch a’ch swyddog datblygu rhanbarthol i gael dysgu mwy