Mae y Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio gyda chlybiau, ysgolion, unigolion ac arbenigwyr i gynyddu cyfleoedd i bobl yng Ngogledd Cymru gyflawni eu potensial drwy weithgareddau awyr agored, cyfranogiad gweithredol, gwirfoddoli, hyfforddiant ac addysg.
AIlish Roberts yw ein Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored yn Ngogledd Cymru. Mae hi yn gweithio dros ardaloedd Sir Fflint, Wrecsam, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Mon.
Gallwch gadw’n gyfredol gyda’r hyn sy’n digwydd yng Ngogledd Cymru drwy ddilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Gogledd Cymru:
Facebook: Swyddog North Wales
Instagram: The Outdoor Partnership North Wales
Eventbrite: The Outdoor Partnership North Wales Events
Neu cysylltwch gyda Ailish ar 07742 875852 neu ailish.roberts@partneriaeth-awyr-agored.co.uk
Ers 2005, mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi dod â phobl a sefydliadau ynghyd ledled Gogledd Cymru i greu mwy o gyfleoedd ac effaith barhaol. Dyma gipolwg cyflym ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni’n ddiweddar..
Mae priosect Eryri Ni yn darparu sesiynau cysylltu â natur bob mis ar draws Eryri, yn aml dau neu dri y mis diolch i waith partneriaeth cryf. Eleni, mae’r sesiynau wedi cynnwys storiâu Cymraeg gyda Leading in Nature, gweithgareddau dringo yn ystod Gŵyl HONGIAN, hyfforddiant llywio i wirfoddolwyr Caru Eryri, glanhau cymunedol gyda Phlas Penrhyn a phartneriaid, a sesiynau llesiant i Gwmni Bro.
Mae cyllid ychwanegol eleni wedi ein galluogi i gefnogi Wythnos Natur Cymru gyda Natur Eryri. Gyda Leading in Nature a Pen y Bryn, fe wnaethom ddarparu wythnos lawn o weithgareddau natur ar draws Eryri, gan helpu mwy o bobl i gysylltu â’r dirwedd.
Wedi’i wreiddio mewn ymchwil i’r iaith Gymraeg a chynlluniau i ddysgwyr, mae Eryri Ni yn helpu pobl i feithrin perthynas ddyfnach â’r lle – ei hanes, ei ecoleg, a’i arwyddocâd diwylliannol. Trwy annog gofal am yr amgylchedd naturiol, mae’r prosiect yn amlygu’r berthynas gyd-ddibynnol rhwng pobl a thirwedd: pan fyddwn yn gofalu am Eryri, mae’n cefnogi ein lles, gan gynnig adferiad, iachâd, ac ymdeimlad cryfach o berthyn.
Mae ein rhaglen AMSER yn parhau i ddarparu sesiynau i ofalwyr ifanc ar draws holl chwe sir Gogledd Cymru, gyda sesiynau ychwanegol i ofalwyr oedolion ifanc wedi’u hariannu drwy’r rhaglen Short Breaks.
Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth ag elusennau gofalwyr lleol, gan gynnwys NEWCIS, Action for Children, a WCD Credu.
Trwy gyllid Moondance, rydym yn parhau i weithio gyda Barnardo’s, GISDA, STAND NW a CYFLE Support i ddefnyddio gweithgareddau lles awyr agored fel catalydd ar gyfer meithrin cysylltiadau cryfach rhwng sefydliadau, cymunedau a chyfranogwyr. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys archwilio mwyngloddiau, rhaffau uchel, dringo, caiacio, cerdded ceunant a phadlo ar fyrddau. Ynghyd â’r ddarpariaeth, rydym yn cryfhau partneriaethau lleol, rhannu arbenigedd ac adeiladu hyder a gallu sefydliadau i ddefnyddio gweithgareddau awyr agored fel rhan o’u cefnogaeth barhaus.
Drwy’r dull cydweithredol hwn, rydym wedi helpu sefydliadau lleol i weld gweithgareddau awyr agored nid fel ymyrraeth un-tro, ond fel arf gwerthfawr o fewn eu gwasanaethau lles ac ehangach. Mae hyn wedi dylanwadu ar sut mae cyfleoedd yn cael eu datblygu, eu darparu a’u cynnal ledled Gogledd Cymru.
Mae Clwb Antur Menywod yn parhau i redeg un neu ddwy sesiwn bob mis mewn partneriaeth â Pen y Bryn. Mae’n rhaglen amrywiol o weithgareddau awyr agored yn cynnwys cerdded mynydd, nofio gwyllt, padlfyrddio, dringo, archwilio ogofâu ac, hyd yn oed, trip sgïo – gan gynnig cyfleoedd i fenywod feithrin hyder, gwella llesiant, ac mwynhau antur gyda’i gilydd mewn amgylchedd diogel.
Cysylltwch ag Ailish i gael eich ychwanegu at y Grŵp Whatsapp!
Mae ein partneriaeth â SUPLASS yn parhau yn dilyn llwyddiant y rhaglen, gyda sesiynau antur SUP i fenywod yr haf hwn a rhaglen bedair wythnos arall sy’n cynnig gweithgareddau awyr agored cefnogol wedi’u cynllunio i wella hyder, llesiant a chysylltiad. Dros y gaeaf, rydym yn symud dan do i byllau nofio canolfan hamdden Gwella i barhau i ddatblygu ein sgiliau a mwynhau.
Cysylltwch gyda Ailish i gael eich ychwanegu at y Grŵp Whatsapp!
Mae’r sesiynau Ysgol Goedwig yn rhedeg bob blwyddyn o’r Pasg hyd at Calan Gaeaf ar draws Eryri ar gyfer plant ifanc, mewn partneriaeth â Pharc Eryri a’r National Trust. Mae’r sesiynau’n rhoi cyfle i blant archwilio, dysgu a chwarae yn y natur.
Mae prosiect Gwreiddiau Môn yn parhau i gefnogi pobl sy’n profi heriau megis digartrefedd, camddefnyddio sylweddau, a throsglwyddo o’r system gyfiawnder, gyda grwpiau ar wahân ar gyfer cyfranogwyr iau a hyn.
Mae’r gweithgareddau yn cynnwys teithiau cerdded llesiant, y gobeithiwn fydd yn cyfrannu tuag at hyfforddiant Lowland Leader i’r cyfranogwyr, ynghyd â sesiynau syrffio yn Rhosneigr sy’n cyfuno hyfforddiant Swim Safe â chyfleoedd i ennill y Wobr Tonnau. Maent hefyd wedi gwneud dringo dan do ac yn yr awyr agored, ac wedi cwblhau eu lefelau NICAS.
Mae ein Fframwaith Dysgu Antur yn parhau i ddatblygu fel peilot sy’n cael ei gyflwyno ar draws Gogledd Cymru. Rydym wedi cydweithio â Gethin Môn Thomas i greu fframwaith strategol o ganllawiau i’w ymgorffori yn y cwricwlwm, gan annog dysgu drwy’r awyr agored. Ar hyn o bryd, mae 7 ysgol yn cymryd rhan, gan gynnwys ysgolion arbennig, cynradd ac uwchradd:
- Ysgol Bethel
- Ysgol Eifion Wyn
- Ysgol Friars
- Ysgol Gogarth
- Ysgol Manod
- Ysgol Hafod Lon
- Ysgol Llanddoged
Cynllun Hyfforddiant
Mae ein cynllun hyfforddieion yn canolbwyntio ar wella sgiliau pobl leol ac yn eu cefnogi i adeiladu gyrfaoedd yn y sector awyr agored drwy hyfforddiant achrededig a chymwysterau cydnabyddedig yn genedlaethol. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio’n bennaf ar Arweinydd Mynydd, Hyfforddwr Dringo Creigiau, nifer o gymwysterau chwaraeon dŵr, Arweinydd Beicio Mynydd, a hyfforddiant Arweinydd Mwynfeydd.
Mae’r cynllun yn parhau i ddatblygu’n dda, gyda diwrnodau datblygu Arweinydd Mynydd misol yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn gyda Smyrff o Hike and Bike Snowdonia. Mae’r rhain yn rhoi cyfleoedd rheolaidd i gyfranogwyr feithrin eu sgiliau a’u profiad, gan symud ymlaen tuag at Hyfforddiant Arweinydd Mynydd ac, yn y pen draw, Asesiad Arweinydd Mynydd. Mae’r rhaglen yn cynnig llwybr clir i brentisiaid ennill yr hyder, y cymhwysedd a’r cymwysterau sydd eu hangen i weithio’n broffesiynol yn y diwydiant awyr agored.
Mae ein partneriaeth â Phlas y Brenin hefyd yn parhau i gryfhau, gyda’r ail rownd o gyrsiau hyfforddi â chymorth ariannol ar y gweill ar hyn o bryd, gan helpu mwy o arweinwyr dyfodol i ennill cymwysterau cydnabyddedig yn genedlaethol.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma: Hyfforddeion Ifanc – The Outdoor Partnership
I gofrestru, llenwch y ffurflen Cynllun Hyfforddi a chysylltwch ag Ailish i gael eich ychwanegu at y Grŵp WhatsApp!
- Dref Werdd – gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar gydlyniant cymunedol ac ar greu profiadau cadarnhaol yn yr awyr agored i bobl ifanc.
- ADDYSG Gwynedd – gweithio ochr yn ochr ag Addysg Gwynedd i ddarparu sesiynau sy’n cefnogi disgyblion sydd mewn perygl o fod yn NEET i ailgysylltu ac ailymgysylltu drwy ddysgu awyr agored, megis sesiynau ysgol goedwig.
- HONGIAN Fest – mae TOP wedi cefnogi Hongian Fest dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn gobeithio parhau i wneud hynny drwy ddarparu gweithgareddau ychwanegol (dringo, nofio gwyllt, ioga a padlfyrddio) ar gyfer y gymuned.
Cefnogaeth Clybiau
Rydym yn cynnig Aelodaeth Cyffredinol (Am Ddim) a Aelodaeth gyda chefnogaeth Addysg Hyfforddwyr (Aelodaeth Uwch) sy’n £150 y flwyddyn i gefnogi clybiau i gyflawni eu nodau. Gall hyn gynnwys cyngor a chefnogaeth ar geisiadau cyllido, hyfforddiant a sicrhau gwirfoddolwyr, recriwtio aelodau, arweiniad, cyfryngau cymdeithasol ac ati. Rydym hefyd yn cynnal cyrsiau Cymorth Cyntaf ar gyfer gwirfoddolwyr y clwb.
Mae ceisiadau ar gyfer rhaglen cefnogaeth clybiau eleni bellach ar agor- ewch i dudalen Aeloadeth Clwb i ddarganfod sut i wneud cais: Aelodaeth Clwb – The Outdoor Partnership.
Mae gennym hefyd ddau Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored ychwanegol, wedi’u hariannu drwy’r awdurdodau lleol yng Ngwynedd a Chonwy.
Dyma’r swyddi gwreiddiol a sefydlwyd yn 2005 pan ddechreuodd Y Bartneriaeth Awyr Agored. Mae’r swyddogion yn gweithio’n agos ag Ailish, ein Swyddog Rhanbarthol, i helpu gwireddu ein hamcanion a’n nodau strategol drwy greu effaith ymarferol ledled Gogledd Cymru.
Roger Pierce yw’r Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored yng Nghonwy. Mae wedi’i leoli o fewn tîm hamdden awdurdod lleol Ffit Conwy ac mae yn gweithio ar draws Conwy gyfan.
Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Roger yn uniongyrchol ar 07701 004816 neu roger.pierce@conwy.gov.uk
Tomos Lloyd yw’r Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Gwynedd. Mae wedi’i leoli o fewn tîm hamdden awdurdod lleol Byw’n Iach ac mae yn gweithio ar draws Gwynedd gyfan.
I ddarllen mwy am beth sy’n mynd ymlaen yng Ngwynedd, dilynwch y linc isod.