Dyma esiampl gwych o arferion da yn cael eu rhannu rhwng ein rhanbarthau; mae ein sesiynau Cerdded a Nofio / Hike and Dip wedi bod yn llwyddiant ysgubol.
Mae buddion nofio awyr agored a trochi dŵr oer wedi eu nodi yn aml, ac mae’r cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy’n trio’r gweithgaredd wedi rhoi syniad i ni, i gael hyd yn oed mwy o bobl i ymddiddori.
Mae ein sesiynau Cerdded a Nofio / Hike and Dip, a ddechreuodd yn Sir Benfro, a bellach wedi lledaenu cyn belled â Swydd Ayr, yn cynnwys cyfleoedd i gyfranogwyr ymuno ar deithiau cerdded hardd a chael eu tywys drwy’r camau petrus cyntaf hynny i drochi dŵr agored. Gall y manteision iechyd corfforol a meddyliol a geir o’r gweithgaredd fod yn hynod fuddiol.