Mae ein rhaglen Cydlyniant Cymunedol yn cefnogi cymunedau ar lefel leol yn unol â’u hanghenion penodol, gan eu grymuso a’u hysgogi i ddatblygu’r sgiliau i ddarparu mynediad cynaliadwy i bawb at weithgareddau awyr agored o ansawdd uchel, addas, rheolaidd ac yn cael eu rhedeg yn ddiogel.
Ers ein sefydlu yn 2005, rydym wedi datblygu parhad ar gyfer pobl leol o bob oed, rhyw, crefydd, cenedl, cyfeiriadedd a chefndir cymdeithasol‑economaidd, i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel ymgais gydol oes ac i symud ymlaen ar lefel o’u dewis – o brofiadau cyntaf, i wirfoddoli, ac yn y pen draw i gyflogaeth.
Ein Rhagleni Cydlyniad Cymunedol
Datblygu Cymunedol
Mae ein Rhaglen Datblygu Cymunedol yn cael ei harwain gan ein Swyddogion Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored, ac mae’n ysbrydoli miloedd o blant, pobl ifanc ac oedolion bob blwyddyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel ymgais gydol oes. Gwneir hyn drwy ddarparu sesiynau blasu, rhaglenni datblygu, gwyliau a digwyddiadau, ac yna’u cefnogi i symud ymlaen i ddarpariaeth gynaliadwy, datblygu sgiliau pellach, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth.
Datblygu Clybiau
Mae ein Rhaglen Datblygu Clwb yn gweithio i gefnogi clybiau cymunedol sy’n cynnig sesiynau gweithgareddau awyr agored ar stepen drws ledled Cymru ac ym mhob rhanbarth yn y DU yr ydym yn gweithio ynddynt. Gall y gefnogaeth gynnwys: - Cyhoeddusrwydd drwy ein gwefan - Cefnogaeth Addysg Hyfforddwyr* - Canllawiau cyffredinol ar ddatblygu eich clwb * aelodau tâl yn unig