* Ydych chi wrth eich bodd gyda’r awyr agored neu wedi gwirioni gyda gweithgaredd arbennig?
* Fyddech chi wrth eich bodd yn rhannu y brwdfrydedd yma gydag eraill?
* Ydych chi yn byw yng Nghymru, ac a fyddech yn hoffi ein helpu annog mwy o bobol Cymru i fod yn actif yn yr awyr agored?
Rydym yn recriwtio Llysgenhadon Gwirfoddol i helpu pobl ddarganfod eu cariad am bopeth awyr agored!
  • Rydym yn chwilio am bobol gyda syniadau newydd a gwahanol i ddenu mwy o bobol yng Nghymru i gymeryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, mewn ffordd ddiogel.
  • Felly rhannwch eich syniad gyda ni, ac fe weithiwn gyda’n gilydd i’w wireddu!
  • Byddwn hefyd yn eich cefnogi gyda cymorth ariannol (hyd at £400 uchafswm) i fynychu cwrs o’ch dewis chi, unai fel gwbor am eich gwaith neu i helpu gyda’r syniad.
  • Efallai eich bod yn badlfyrddiwr brwd, ac eisiau ymweld a sefydliadau lleol i addysgu eraill sut i badlfyrddio yn ddiogel
  • Neu efallai eich bod yn dda gyda geiriau ag awydd sgwennu blog i ni fydd yn helpu eraill ddysgu am weithgareddu awyr agored
  • Oes ganddoch chi sgiliau technoleg, neu graffeg, neu yn dda ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn fodlon ein helpu gyda hyn?
  • Allech chi sbario amser i’n helpu mewn digwyddiadau cyhoeddus, neu helpu rhai o’r clybiau cymunedol sydd yn aelodau gyda ni?
  • Ydych chi’n hoff o grwydro neu gerdded mynyddoedd ac eisiau cyfle i rannu’r brwdfrydedd am yr ardal gydag eraill rhywsut?

Mae’r llawr ar agor. Chi biau’r syniadau!

Dyma gyfle cyffrous i ymuno efo ni yn y Bartneriaeth Awyr Agored, a derbyn cefnogaeth i wneud cwrs neu gymhwyster yr un pryd!

*Rhaid ymgeisio drwy gwblhau y ffurflen isod:

*Bydd pob ymgeisydd llwyddianus yn cael eu anwytho gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored, ac yn cael buddio o gyfleoedd hyfforddiant pellach.

*Byddwn yn gwirio drwy wasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) os yn berthnasol i’r rôl gwirfoddol.

*Nodwch: ni all Y Bartneriaeth Awyr Agored yswirio gwirfoddolwyr i arwain gweithgareddau; os bydd eich syniad yn cynnwys arwain grwpiau, bydd rhaid i’r weithgaredd gael ei yswirio mewn modd arall.

*Mae’n rhaid i’ch prosiect neu gwaith gael ei gynnal cyn Ebrill 2025, a bydd eich rôl fel Llysgenhad yn parhau am flwyddyn, o’r amser i chi gael eich dewis.

*Byddwch yn derbyn cefnogaeth gan ac yn gweithio gyda’r swyddog gwirfoddoli, ac unrhyw aelodau pethnasol eraill o dim Y Bartneriaeth Awyr Agored, a byddwn yn rhoi gwisg (siwmper) brand i chi ar gyfer  y rôl.

Dyddiad cau ceisiadau: 27/5/24

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Llywodraeth Cymru drwy gynllun grantiau Gwirfoddoli Cymru, sy’n cael ei redeg gan CGGC.

Os oes ganddoch unrhyw gwestiynau, neu os hoffech drafod eich syniad cyn cwblhau y ffurflen, cysylltwch gydag ein swyddog gwirfoddoli, Sian Williams:
sian.williams@partneriaeth-awyr-agored.co.uk
Ymgeisio i fod yn Llysgenhad Gwirfoddol
Ymgeisiwch yma: