Mae’r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn gynllun sicrhau ansawdd sydd â safonau thematig, prosesau archwilio ac ardystio a gwobrau, sy’n cydnabod arfer gorau.

Fe’i cynlluniwyd i’w ddefnyddio ar draws ystod generig o leoliadau ac i’w gyrraedd mae’n rhaid llunio ffolder tystiolaeth.

Mae’r cynllun yn cwmpasu Gofalwyr o bob oed a sefyllfa;

  • Gofalwyr Ifanc o dan 18 oed

  • Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr rhwng 18 a 25 oed

  • Rhiant Ofalwyr sy’n gofalu am blentyn ag anabledd neu fater iechyd meddwl

  • Gofalwyr sy’n frawd neu chwaer

  • Pobl hŷn sy’n gofalu am ei gilydd

Mae’r cynllun hefyd wedi’i gynllunio i gefnogi ymrwymiad i ddarnau allweddol o ddeddfwriaeth genedlaethol a lleol, gan gynnwys ymrwymiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a deddfwriaeth sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Rydym bellach wedi ennill Gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr. Mae hyn wedi cynnwys hyfforddiant i’r tîm staff, diweddaru polisïau a gwella cyfathrebu ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn gobeithio mynd ymlaen i weithio tuag at Arian ac Aur yn y dyfodol agos i sicrhau bod ein rhaglenni a’n helusen yn cynnwys pob gofalwr.
Mae ein rhaglen antur gofalwyr ifanc o’r enw AMSER wedi bod yn digwydd ledled Cymru ers haf 2023, ac wedi darparu 1175 o gyfleoedd i ofalwyr ifanc roi cynnig ar bob math o weithgareddau, fel ogofau, canŵio, beicio mynydd, syrffio a rafftio.
Bydd y rhaglen yn parhau eleni gyda llawer mwy o gyfleoedd ar y gorwel – felly digon o hwyl yn dal i ddod!
AMSER
Darganfyddwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen ar ein rhageln AMSER
Sioned Thomas

Sioned sy’n arwain ar y cynllun Buddsoddi mewn Gofalwyr gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored.

Os hoffech unrhyw wybodaeth pellach gallwch gysylltu â hi ar 07706735791 neu e-bostiwch Sioned.thomas@partneriaeth-awyr-agored.co.uk

Llwybrau Cyfeirio
Carmarthern
305 KB, PDF
Ceredigion
303 KB, PDF
Pembrokeshire
306 KB, PDF