Yn 2017, lawnsiodd Llywodraeth Cymru strategaeth; Cymraeg 2050.

Yr uchelgais yw gweld nifer y bobl sy’n gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050.

Yn eu geiriau eu hunain, mae hyn yn sicr yn her! Ond her gwerth chweil i sicrhau bywiogrwydd yr iaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Fel rhan o’r gwaith hwn, mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi datblygu rhaglen achredu sy’n annog sefydliadau i gynyddu’r cyfleoedd i unrhyw un ddefnyddio’r Gymraeg; Cynnig Cymraeg. Gall pob math o sefydliadau ddatblygu eu Cynnig Cymraeg eu hunain;  Elusennau, Busnesau, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol.

Rydym yn hoffi bod yn rhan o her yn y Bartneriaeth Awyr Agored, felly rydym yn awyddus i weithio ochr yn ochr â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i ddatblygu ein Cynnig Cymraeg ein hunain.

Beth rydym wedi ei gyflawni hyd yn hyn

Ar ôl creu Cynllun Iaith Gymraeg yn 2013, roeddem yn awyddus i fynd a hyn gam ymhellach a datblygu ein Cynnig Cymraeg a fydd yn cryfhau ein balchder yn ein gwasanaethau Cymraeg ymhellach. Mae mapio allan a chreu ein cynllun ein hunain yn ein galluogi i wneud hyn mewn ffordd bwrpasol sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd o statws cyfartal, ar y cyd âg uchelgais hirsefydlog y Bartneriaeth Awyr Agored i hyrwyddo a chynyddu cyfranogiad siaradwyr Cymraeg mewn gweithgareddau awyr agored.

Mae ymchwil gan y Bartneriaeth Awyr Agored wedi dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n cael eu cyflogi gan y sector awyr agored yng Nghymru yn isel. Felly, mae darparu gwasanaethau yn y Gymraeg yn cael eu tangynrychioli yn y sector. Gobeithio y bydd gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg, ochr yn ochr ag amryw o raglenni gwaith eraill rydym yn cymryd rhan ynddynt, megis Bant a Ni, cefnogi hyfforddiant a cymhwysterau cyfrwng Cymraeg, ac amrywiol sesiynau eraill, yn dechrau mynd i’r afael â’r mater hwn, gan arwain at ddarlun gwell y gallwn barhau i weithio arno.

Camu tuag at y Cynnig

Gyda chefnogaeth wych gan dîm Hybu rydym yn gweithio tuag at statws cydnabyddiaeth swyddogol. Ar ôl cwblhau’r holiadur cychwynnol a derbyn adborth, rydym wedi gosod targedau i’n hunain o ble a sut y gallwn wella ein cynnig Cymraeg.
Mae hyn yn cynnwys pethau fel datblygu ein cylchlythyr chwarterol, fel ei fod yn gwbl ddwyieithog, sicrhau bod gennym system gyfathrebu gadarn o fewn y tîm fel y gellir ateb gohebiaeth yn Gymraeg bob amser, a chefnogi ac annog cyfleoedd dysgu pellach i staff ddysgu ac ymgysylltu â’u gwaith trwy’r Gymraeg.
Pan fyddwn wedi cyrraedd ein targedau, gallwn wedyn rannu’r rhain, yn fewnol ac yn allanol, a’u hyrwyddo a’u dathlu! Drwy hynny, bydd pawb yn gwybod yr holl ffyrdd y gallant ddefnyddio eu Cymraeg drwy ein gwasanaethau – gan helpu gyda’r nôd cyffredinol o roi mwy o ffyrdd i fwy o bobl ddefnyddio’r Gymraeg a dod yn agosach at yr 1  miliwn o ddefnyddwyr hynny!

Pam ei fod yn bwysig

Mae hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn bwysig iawn i ni. Ar ôl cael ein sefydlu a bod yn weithredol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ers bron i 20 mlynedd, mae gennym gysylltiadau cryf â chymunedau Cymraeg lle mae mwyafrif y boblogaeth, gan gynnwys llawer o’n tîm yn defnyddio’r Gymraeg fel eu hiaith o ddydd i ddydd. Credwn yn angerddol y gallwn chwarae rôl wrth amddiffyn y defnydd o enwau lleoedd a thraddodiadau Cymraeg mewn amgylcheddau awyr agored, megis sicrhau bod enwau brodorol mynyddoedd, llynnoedd a rhanbarthau yn cael eu defnyddio a’u cadw’n fyw.

Ers i ni ehangu a rhannu ein gwaith gyda phob ardal ledled Cymru erbyn hyn, mae parhau i fod yn ddylanwad cadarnhaol yn bwysicach nag erioed.  Mae 86% o’r boblogaeth yng Nghymru yn teimlo bod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo, ac ymhellach,  mae 94% o siaradwyr Cymraeg yn teimlo bod darparu gwasanaeth Cymraeg yn helpu cwmni i wneud argraff dda, ac  mae 75% o siaradwyr Cymraeg yn credu y dylai elusennau weithredu’n ddwyieithog yng Nghymru. Felly mae’n bwysicach i ni nawr nag erioed i adeiladu ar y gwaith hwn.

Ac nid yng Nghymru yn unig! Mae gweithredu mewn gwahanol ranbarthau’r DU yn rhoi cyfle i ni hyrwyddo ac addysgu am yr iaith ymhellach i ffwrdd. Roedd sgyrsiau diweddar mewn ardaloedd fel Plymouth yn trafod a codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg drwy ei welededd ar ein deunyddiau marchnata ac mae’n ffordd wych o dorri’r iâs a cychwyn sgwrs mewn digwyddiadau! Ac mewn rhanbarthau eraill yn y DU, fel Swydd Ayr a Gogledd Iwerddon, ein nod yw datblygu rhaglenni tebyg sy’n gweithio mewn ieithoedd fel Gaeleg yr Alban a Gaeleg Gwyddeleg.