Mae Jamie wedi bod yn gysylltiedig gyda'r Bartneriaeth Awyr Agored ers amser maith drwy ei waith di-flino yn sefydlu Clwb Antur Môn (CAM); un o'r clybiau cyntaf i gael ei sefydlu gyda cefnogaeth y Bartneriaeth Awyr Agored.
“Mae llwyddiant CAM dros y 15 mlynedd diwethaf oherwydd angerdd cyfunol ei holl elfennau. Yn gyntaf oll, gan y dringwyr ifanc y mae’n eu gwasanaethu – eu hymateb i gyfle a chyfrifoldeb. Mae’n gofyn am ymddiriedaeth rhieni, i’r clwb ddatblygu potensial eu plant, trwy ddysgu antur, gyda’i risgiau tybiedig. Mae tîm gwirfoddolwyr y clwb yn wych ac yn cael eu denu oherwydd brwdfrydedd dringwyr ifanc. Mae’r waliau dringo lleol, yr Indy a’r Beacon, yn enwedig yr Indy, a Jon Ratcliffe a’i dîm yno, yn caniatáu i’r clwb weithredu lle mae dringwyr ifanc yn cael eu datblygu yn eu gweithgaredd a’r risgiau cysylltiedig. Gyda cefnogaeth YBAA, a chefnogaeth i addysgu hyfforddwyr mae’n sylfaen llwyddianus.
Ian Henderson, Bari Jones, Pete Edwards a Gaz Davies yw gwirfoddolwyr craidd y clwb. Yr Indy yw ein cartref. Hebddyn nhw, nid oes clwb.
O’m rhan i, rwy’n ymdrechu i rannu fy angerdd am ddringo, cyfathrebu a gyrru ethos y clwb, “dringo fel ninja a rhannu eich dringo,” hynny a “mae anturiaethau allan yna.” Yn baradocsaidd mae’r clwb yn treulio oriau lawer “tu mewn” ond mae hynny yn gosod datblygiad i’r sylfeini ar gyfer llwyddiant “tu allan”. Nid wyf yn golygu anturiaethau dringo yn unig, mae’n agwedd dda wrth wynebu heriau bywyd gyda hyder, hunan-barch ac effeithiolrwydd.
Sut ydw i ynghlwm a CAM?
Yn 2006, cynigiodd Aled Edwards, Swyddog Datblygu Awyr Agored cyntaf Ynys Môn, 2 sesiwn blasu, yn wal ddringo Canolfan Conway, i ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol David Hughes. Aeth fy mab Joseph i’r ddwy sesiwn ac fe es i helpu. Trefnwyd sesiynau pellach yn yr Indy.
Cymrerodd Tudur Owen drosodd rôl swyddog awyr agored Môn a rhyngom ni fe gychwynom CAM. Cefais fy enwebu’n Gadeirydd ac rwyf wedi parhau yn y rôl ers hynny.
Am flynyddoedd lawer bues i’n dysgu ym Mwthyn Ogwen, ac roedd hyn yn golygu y gallwn ymrwymo i nosweithiau Gwener rheolaidd i’r clwb.
Roedd gwirfoddolwyr allweddol eraill, Ian a Bari, yn rhan o’r tîm yn fuan ac roeddem yn cynnal 40+ sesiwn y flwyddyn, yn bennaf yn yr Indy, ond y Beacon a’r awyr agored hefyd.
Gyda chefnogaeth gan Ogwen fe gynigion ni raglenni wythnos yn yr haf i aelodau’r clwb, un ym Mwthyn Ogwen a sawl taith flynyddol i Sir Benfro. Cafodd nifer o aelodau lefydd â chymorth hefyd ar gyrsiau ym Mhlas y Brenin.
Dyma ychydig o straeon am sut mae’r clwb wedi llunio bywydau:
Bari Jones: dringwr amatur a rhiant/wirfoddolwr, sydd bellach yn berchennog/gweithredwr Ropeworks Active, Llanberis.
Jill Reinsch: wedi graddio ym Mhrifysgol Bangor, 5 mlynedd yn wirfoddolwr CAM, gradd Meistr, athro, MCI ac sydd bellach yn Diwtor yng Nghanolfan Conwy.
Lewis Perrin-Williams: ymunodd yn 13 oed, pan ddaeth myfyrwyr y cwrs BTEC yng Ngholeg Menai, â chriw o fyfyrwyr i wirfoddoli. Bellach mae’n ddringwr blaenllaw yng ngwobrau Gwirfoddolwyr Ieuenctid Gogledd Cymru a BMC.
Megan Bown: Gwirfoddoli gyda Coleg Menai yn 16 oed, a bellach ar Gynllun Datblygu Hyfforddwyr Glenmore Lodge.
Alis Jones: ymunodd yn 11 oed, yn 10 uchaf yn y DU yng Nghyfres Dringo Ieuenctid y BMC yn 16 oed. Newydd raddio o Harvard, ac rwyf wedi ysgrifennu ei geirda ar gyfer trac cyflym y Gwasanaeth Sifil. Cyn iddi fynd i Goleg y Byd Unedig, Hong Kong, yn 17 oed, fe ddringon ni A Dream of White Horses yng Ngogarth.
Pete Edwards: gwirfoddolodd gyda’r clwb pan oedd yn gweithio yn y siop ym Mhlas y Brenin. Un o wirfoddolwyr allweddol y clwb, sydd bellach â gradd Meistr mewn perfformiad hyfforddi ac yn rhedeg cwmni Prowess Coaching.