Mae stori antur awyr agored Osian Sanderson yn un o waith caled, ymrwymiad ac ymroddiad, a chefnogaeth gan y Bartneriaeth Awyr Agored.
Ar hyn o bryd mae Osian, sy’n 20 oed ac o Fethesda, yng Ngogledd Cymru, yn astudio ar gyfer gradd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Glasgow, ac yn gobeithio, yn y pen draw, cyfuno ffrwyth ei lafur gyda’i astudiaethau gyda’i angerdd am badlo, dringo, a’r awyr agored.
Dechreuodd anturiaethau awyr agored Osian pan yn 14-15 oed, yn caiacio a chanŵio ar y llyn gyda Chlwb Antur Dyffryn Peris a’r Bartneriaeth Awyr Agored. Mae wastad wedi mwynhau’r gweithgareddau dŵr, a penderfynodd fynd â hyn gam ymhellach pan ddechreuodd hyfforddi i ddod yn hyfforddwr ac arweinydd chwaraeon padlo, gan gymhwyso pan yn 17/18 mlwydd oed. Galluogodd ei gymhwyster ef i gyflawni amrywiaeth o rolau, yn cynnwys cymryd grwpiau (dan oruchwyliaeth nes iddo gyrraedd 18 mlwydd oed), gan weithio gyda Snowdonia Watersports, a chymryd y Clwb Plant gyda chyfranogwyr dan 14 oed.
Mae Osian yn mwynhau gwthio ei hun i’r eithaf o ran gweithgareddau awyr agored. Dysgodd i wneud slalom ar y llyn gyda phontynau a dysgu i rolio, a’r dŵr gwyn yw ei hoff beth.
Mae wedi gweithio gyda Pathway Cymru ac yn cydnabod bod uwchsgilio rheolaidd wedi bod yn allweddol i’w lwyddiant. Dysgodd i rafftio yn Nhryweryn, gan symud ymlaen i weithio yno mewn amser. Mae’n parhau i weithio yno yn ystod cyfnodau’r gwyliau, yn uchel ei barch fel arweinydd yn Nhryweryn, ac yn gyrru rafft yno ar gyfer grwpiau ymwelwyr ac yn rigiwr ceunentydd erbyn hyn. Mae Osian yn cydnabod beth mae’r cyfleoedd mae gweithio yn Nhryweryn wedi ei roi iddo, ac hefyd yr holl bobl mae’r gwaith wedi galluogi iddo eu cyfarfod yn ystod y cyfnod hwn.
Mae Osian hefyd yn amlygu pwysigrwydd y sgiliau bywyd eraill y mae wedi eu dysgu yn ystod ei ddatblygiad fel hyfforddwr ac arweinydd awyr agored, yn ogystal â dysgu am yr ochr chwaraeon. Nodai ei sgiliau i ddelio â phobl, sgiliau iechyd a diogelwch, a sgiliau pendantrwydd fel elfennau y mae wedi gallu eu hatgyfnerthu yn ystod ei daith gweithgareddau awyr agored.
Un peth mae Osian wedi sylwi arno trwy gydol ei flynyddoedd yn y diwydiant dŵr gwyn, yw nad yw erioed wedi cyfarfod siaradwr Cymraeg yn y maes. Mae’n sicr mai ymuno â chlwb yw’r ffordd ymlaen i ddenu mwy o siaradwyr Cymraeg i weithio yn y diwydiant, a bod angen llwybr dŵr gwyn os ydym am lwyddo i ddenu mwy o bobl leol i barhau gyda’u diddordeb yn y gamp ac i symud ymlaen i hyfforddi, i gymhwyso, ac i hyfforddi eraill.
Er ei fod yn astudio ym Mhrifysgol Glasgow yn ystod y tymor, nid yw beth ymhell o’r dŵr. Mae’n ymwelydd rheolaidd i ganolfan y Pingston Watersports Centre yn Glasgow, sy’n galluogi iddo ddal ati gyda’i ddiddordebau dŵr gwyn. Ymunodd â’r clwb lleol yn Glasgow, clwb sy’n uchel ei barch, sydd ag enw da yn rhyngwladol. Treuliai’r clwb bob penwythnos ar afonydd ucheldiroedd Yr Alban, gyda llawer o gyd-badlwyr Osian yn aelodau cyfredol neu’n gyn-aelodau o dîm y Deyrnas Unedig.
Nid yw diddordebau awyr agored Osian yn gyfyngedig i’r dŵr yn unig. Wedi ei fagu yn Eryri, pwy allai beidio cael eu denu gan y bryniau a’r mynyddoedd o’u hamgylch? Tra mae dringo wastad wedi bod yn agos i’w galon, mae ei rôl mwy diweddar fel rigiwr ceunentydd yn Nhryweryn wedi ei alluogi i wneud defnydd pellach o’i sgiliau dringo.
Mae Osian wastad wedi bod yn awyddus i ymestyn ei orwelion dŵr gwyn ac i brofi lleoliadau a heriau newydd. Dechreuodd ei anturiaethau ar afonydd Ogwen, Lledr a Chonwy yng Ngogledd Cymru, cyn wynebu’r heriau sydd gan Yr Alban i’w cynnig, a threulio cyfnodau hir o’i wyliau haf yn yr Alpau, o Slofenia i Ffrainc, yn y blynyddoedd diweddar.
Un o uchafbwyntiau diweddar Osian oedd cymryd rhan yn ‘BUKE 24: Guatemala, the British Universities Kayak Expedition’. Mae 2025 yn nodi 20 ers sefydlu BUKE yn 2005, a gwelodd BUKE 24, y llynedd, y grŵp yn dychwelyd i Sierra de los Cuchumatanes yn Guatemala i chwilio am ddisgynfeydd cyntaf.
Pob 2 flynedd, mae BUKE yn cynnig y cyfle i grŵp dethol o fyfyrwyr i ymuno ag alldaith i ymweld ag ardal o’r byd yr ymwelir â hi neu badlo ynddi yn anaml, gyda’r gwaith cynllunio’n dechrau fisoedd lawer cyn yr alldaith ei hun, ac yn cynnwys elfennau megis mapio’r lleoliad a’r afonydd. Dewiswyd y saith terfynol ar gyfer antur 2024 o grŵp o 20, yn dilyn penwythnos o gyflwyniadau a gweithgareddau i ddewis a dethol ar afonydd yng Ngogledd Cymru oedd, wrth gwrs, yn gyfarwydd iawn i Osian.
Treuliodd y tîm chwe wythnos anhygoel allan yn Guatemala, yn heicio, campio a phadlo drwy jwngl trwchus Guatemala. Os hoffech ddysgu mwy am anturiaethau epig Osian a’i gymdeithion a straeon am raeadrau brown fel siocled, torri drwy’r jwngl trwchus, ffa wedi eu hail-ffrio i frecwast, a rafftiau wedi eu gorchuddio â phryfed cop, ewch i dudalen Facebook y British Universities Kayaking Expedition.
Mae Osian wedi dod yn bell ers y dyddiau cynnar pan ddechreuodd â Chlwb Antur Dyffryn Peris, ond mae dyfroedd Gogledd Cymru’n dal i fod yn agos i’w galon, ac mae’n parhau i weithio fel hyfforddwr ac arweinydd yn Nhryweryn pan mae ei astudiaethau’n caniatáu hynny.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn falch i fod wedi gallu cyfrannu tuag at ddatblygiad Osian, trwy ei alluogi i symud ymlaen gyda’i hyfforddiant a’i gymwysterau. Ac, fel Osian, mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn awyddus i weld mwy o siaradwyr Cymraeg yn cymryd rhan ac yn cymhwyso fel hyfforddwyr ac arweinwyr addysg awyr agored yma yng Nghymru.
Ac, o ran Osian ei hun, mae’n bwriadu ymgeisio am swydd yn y maes seicoleg wedi iddo gwblhau ei radd ac yn gobeithio cyfuno agweddau o’i ddiddordeb mewn dringo a phadlo, rhywdro yn y dyfodol, i ddefnyddio ei arbenigedd mewn seicoleg chwaraeon eithafol. Mae hefyd yn gobeithio dychwelyd i’w ardal enedigol, Gogledd Cymru, i weithio, yn dibynnu ar argaeledd swydd addas, ac hefyd yn awyddus i barhau i fireinio ei sgiliau antur awyr agored gydag hyd yn oed mwy o uwchsgilio. Dymunwn y gorau iddo ym mhopeth mae’n ei wneud ac edrychwn ymlaen i’w groesawu yn ôl.