Yn ei eiriau ei hun ❤️
Fi oedd wastad y person yn fy nheulu ac o’n ffrindiau oedd yn caru’r awyr agored, ac yn dringo fy mynyddoedd lleol, Cadair Berwyn, bob penwythnos, ac wedi dechrau rhedeg y mynyddoedd gyda fy mab, Mackenzie, felly roeddwn i’n ffit iawn ac wrth fy modd yn yr awyr agored. Symudais fy nheulu o arfordir de Lloegr i fyny i Gymru fel ein bod yn agosach at y mynyddoedd (ac i wneud swydd fy mreuddwydion yn Telford).
Ond, ym mis Ionawr 2022, cefais ddiagnosis o diwmor ymennydd glioblastoma cam hwyr. Derbyniais lawdriniaeth i leihau y tiwmor ond, yn anffodus, cefais strôc yn ystod y llawdriniaeth, gan fy ngadael wedi fy mharlysu ar yr ochr chwith ac yn methu cerdded. Symudais i ysbyty adsefydlu yn Y Drenewydd, gan ddysgu sut i gerdded eto a minnau’n 50 oed! Gallais ddychwelyd adref ym mis Mawrth 2022, ac yn gweithio ar fy ngallu i gerdded trwy gerdded cylchdroeon yn fy ngardd (rwy’n ffodus fod gennym ddwy acer ar fryn, ond roeddwn i’n methu’r mynyddoedd go iawn), roeddwn yn ei chael yn anodd yn feddyliol o ganlyniad i fod yn gaeth i’r tŷ, a hynny wedi bod mewn gwely ysbyty am fisoedd. Es at fy meddyg teulu a’n ffisiotherapydd, a nhw helpodd fi i gysylltu gyda Bethan a’r Bartneriaeth Awyr Agored.
Doeddwn i erioed wedi sylweddoli bod gwasanaeth o’r math hwn ar gael ac, mewn dim, cefais gynnig o achubiaeth, a ffordd i gael i’r mynyddoedd rwy’n eu caru. Cysylltodd Andy Cummings (o Manzoku Climbing and Mountaineering) gyda mi, a daeth i’n nghasglu (roedd y DVLA wedi cymryd fy nhrwydded, felly roeddwn wedi bod yn ddibynnol ar fy ngwraig i’n nghludo o le i le). Mae fy ngwraig yn gweithio llawn amser, ac yn gofalu amdanaf i ers y salwch, felly roeddwn yn teimlo fy mod yn faich yn barod, ac yn teimlo’n euog fy mod wedi difetha ein bywydau, ond mae hi bob amser yn dweud mai nid fy mai i oedd o. Cynigiodd Andy i asesu fy ngallu ar daith gerdded ym Mynyddoedd y Berwyn yr oeddwn yn eu hadnabod mor dda. Gwnaethpwyd hyn yn bosibl gan y Bartneriaeth Awyr Agored.
Ni allaf esbonio faint roedd yn ei olygu i mi i fod yn ôl yn y mynyddoedd, a minnau wedi breuddwydio cymaint am y foment hon tra yn yr ysbyty, ddim yn gwybod os byddai’n bosibl, gan fod tiwmor fy ymennydd wedi cael diagnosis terfynol. Roeddwn yn benderfynol nid yn unig i oroesi, ond y byddwn i’n gallu cerdded yn y mynyddoedd unwaith eto. Camodd Andy i mewn, unwaith yn rhagor, gan fy helpu i ddringo Mynydd Llangors yn y Bannau Brycheiniog – roedd yn ddiwrnod anfarwol, ac ni allwn dynnu’r wên oddi-ar fy ngwyneb. Roedd Andy wedi sylwi bod gwelliant sylweddol yn fy symudedd, oedd yn galonogol. Cynigiais i Andy y byddwn wrth fy modd codi arian drwy ddringo’r Wyddfa (un o fy hoff fynyddoedd, cyn fy salwch), a cynigiodd Andy i’n helpu gyda’r nod yma. Ym mis Medi eleni, llwyddais i gyrraedd Yr Wyddfa, gyda fy mab oedd wedi bod yn rhan enfawr o’m mhenderfyniad i wella. Roedden ni wedi dringo’r Wyddfa gyda’n gilydd dair gwaith o’r blaen ar lwybrau gwahanol felly golygai hyn bopeth i mi.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi gwneud cyfraniad anferth i fy llwyddiant wrth frwydro fy salwch, wedi fy ngalluogi i aros yn bositif ac yn benderfynol yn feddyliol, ac mae fy meddygon yn dweud fod fy adferiad wedi digwydd oherwydd fy mhositifrwydd a’m mhenderfyniad. Mae fy adferiad wedi eu syfrdanu, gyda’r sgan diwethaf yn dangos fod y tiwmor wedi lleihau’n sylweddol mewn maint, ond rwy’n parhau ar driniaeth treial sy’n cynnwys cemotherapi, felly mae cerdded yn awyr agored prydferth Cymru’n hanfodol i’n llesiant, yn feddyliol ac yn gorfforol. Rwyf yn hynod ddiolchgar i Bethan ac Andy am eu gwaith caled i helpu pobl fel fi i brofi buddion iachaol yr awyr agored.
Nodyn gan Bethan Logan: 02.01.25 – Bu farw Paul Argent ar 10.12.24. Mynychodd Andy Cummings a minnau ei angladd a cawsom ein cyffwrdd gan yr etifeddiaeth a adawyd gan ŵr oedd yn amlwg yn caru ei deulu a’r mynyddoedd fwy nac unrhyw beth arall, ac a adawodd bositifrwydd ac ysbrydoliaeth ble bynnag yr aeth. Gosododd ei deulu bar o esgidiau cerdded Scarpa ar ei arch, fel teyrnged i’r natur y carai fod ynddo a’r gobaith yr oedd wedi ei gynnig iddo wrth iddo frwydro ei salwch.
Llun – Diweddglo misoedd wedi eu treulio yn dysgu sut i gerdded eto oedd taith i’r Wyddfa i godi arian. Ymunodd mab Paul gydag ef, gan godi dros £1,000 i’r Lingen Davies Cancer Fund oedd wedi ei gefnogi yn dilyn ei lawdriniaeth.
Latest posts
Cofio Paul Argent
Cofio Paul Argent
Cofio Paul Argent