Pobl y Bartneriaeth
Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol

Mae Elis yn un o’n Llysgenhadon Gwirfoddol. Yn hogyn lleol sy’n byw yng ngogledd Cymru, mae wedi bod yn cysidro gwneud y cwrs Arweinydd Mynydd ers talwm, a chyda cefnogaeth ganddom ni, wedi mynd amdani yn 2025. Mae wedi ysgrifennu am ei brofiad ar y cwrs, ac os ydych chi wedi bod yn ystyried hefyd, efallai bydd stori Elis yn eich ysbrydoli!

Hanes Elis:

Mae treulio amser yn yr awyr agored yn rhywbeth dwi wedi bod yn neud ers yn ifanc. Roedd Mam yn mynd a fi a fy mrodyr allan i gerdded am oriau, yr unig ffordd i’n blino ni medda hi! Wrth fynd am dro roedd hi’n adrodd straeon o chwedlau lleol, ac yn ein dysgu am yr holl blanhigion a choed, blodau ac adar oedd o’n cwmpas. Ers y dyddiau cynnar hynny, mae treulio amser yn yr awyr agored wedi bod yn bwysig iawn i mi, ac mae byw ym Mhen Llyn wedi caniatáu i mi wireddu hyn.

Athro cynradd ydi fy ngwaith o ddydd i ddydd, a dwi wrth fy modd yn dysgu. Ond wrth dyfu fyny roeddwn i’n gwybod mai gwaith tu allan yn yr awyr agored oeddwn wir eisiau gwneud.

Ychydig flynyddoedd nol es i ar drip i Romania i gerdded mynydd uchaf y wlad, Moldoveanu Peak (2,544m). Roedd yr arweinwyr mynydd roeddem wedi llogi yn wych. Dau o hogiau lleol oeddent ac roedd y ddau yn amlwg wrth eu bodda efo’u gwaith ac yn wybodus iawn am y mynydd a’r ardal.

Gymaint oedd yr ysbrydoliaeth ges i ganddynt, yn syth ar ôl dod adra, y peth cyntaf nes i oedd ymchwilio fewn i sut i ddod yn arweinydd mynydd!

Roedd yna gymaint o wybodaeth, a fues i wrthi yn darllen am oriau.

Aeth amser yn ei flaen a bywyd yn brysur, ond drwy’r amser roedd dal yng nghefn fy meddwl-yr awydd i fynd amdani.

Ymlaen i haf 2024. Roeddwn newydd orffen fy mlwyddyn gyntaf o ddysgu a wir wedi mwynhau, ond yn teimlo mai gwaith yn yr awyr agored ac allan ar y mynyddoedd oedd wir yn fy niddori.

Pan oeddwn allan gyda fy nghlwb rhedeg lleol un penwythnos cefais sgwrs gyda aelod arall o’r clwb oedd wedi cwblhau cwrs Arweinydd Mynydd gyda darparwr lleol, wedi dysgu llawer a mwynhau yn arw.

Felly dyma feddwl o ddifri y dyliwn i fynd amdani!

Dyma pryd hefyd y clywais am Y Bartneriaeth Awyr Agored a’r cynllun Llysgenhadon Gwirfoddol

Llysgenhadon Gwirfoddol:

Mae’r cynllun Llysgenhadon Gwirfoddol yn helpu pobl i ennill cymhwysterau drwy gynnig cymorth ariannol, gyda’r Llysgenhadon wedyn yn helpu Y Bartneriaeth Awyr Agored gyda’u gwaith drwy wirfoddoli mewn gwahanol ffyrdd.

Wedi ymgeisio, cyfarfod efo Sian a mynd drwy’r induction, roeddwn i yn Lysgenhad! Mi fuo ni yn trafod gwahanol opsiynau a chyfleoedd oedd ar gael ac fe gytunom ar gynllun.

Cefais gefnogaeth i fynychu cwrs arweinydd mynydd a cymorth i ddod o hyd i ddarparwr da, ac mi fydda i wedyn yn cyd-weithio gyda’r Bartneriaeth i ysbrydoli eraill i drio gweithgareddau awyr agored.

Y cwrs Arweinydd Mynydd:

Ionawr 2025. Wel o’r diwedd, bron i pum mlynedd yn ddiweddarach, cyrhaeddodd yr wythnos, roeddwn yn mynd i ddechrau fy nghwrs Arweinydd Mynydd. Roeddwn i mor gyffrous.

Cyn i mi sôn am sut aeth yr wythnos, gadewch i sôn mwy am y cwrs. Cwrs chwe diwrnod ydi’r cwrs Arweinydd Mynydd. Cwrs sydd yn dysgu ac yn ein paratoi ar gyfer bod yn arweinwyr mynydd o safon. Ar y cwrs byddwch yn dysgu am y tywydd, a sut i ddarllen a deall siartiau tywydd er mwyn cynllunio eich taith. Hefyd mae sylw a phwyslais enfawr ar waith map a chwmpawd a sut i ddarllen y tirwedd. Maen siŵr eich bod yn meddwl yr union yr un peth a fi: “Pam mod i angen gwybod sut i ddefnyddio map a chwmpawd pan mae gennai appiau ar fy ffon?”!

Erbyn rŵan dwi’n deall pam a dwi wir yn mwynhau defnyddio a datblygu fy sgiliau map a chwmpawd. Mae gweddill y cwrs yn cynnwys gwaith rhaffau, noson o gampio ar y mynydd a sut i groesi afon yn saff.

Bore Llun – Diwrnod 1!

Cyn i’r arweinydd gyrraedd roeddwn yn eistedd gyda gweddill y criw a fyddai’n mynychu’r cwrs gyda mi. Roedd pawb reit ddistaw i ddechrau, ond o fewn dim roedd pawb yn gyfforddus ac yn holi o le oedd pawb yn dod, a’r rheswm dros fynychu’r cwrs. Dim ond fi ac aelod arall y cwrs oedd yn dod o Gymru. Roedd aelod arall o wlad Pwyl a’r tri arall o ochr arall y ffin. Er ei’n bod o wahanol lefydd, roedd ein diddordeb yn yr awyr agored a’r mynyddoedd yn gryf iawn.

Ar ôl y croeso swyddogol, fe eglurwyd beth oedd i ddod yn yr wythnos, ac yna allan a ni i ymarfer ein gwaith map. I ddechrau roeddwm yn defnyddio map graddfa 1:25000. Cyn camu ar y mynydd cafwyd cyfle i weld faint oedd camu (paceing) pawb – mae hyn yn ein galluogi i weithio allan pellteroedd gyfartalog pan yn cerdded.

Fyny a ni am gyfeiriad Moel Eilio.

Wrth i ni gerdded roedd yr hyfforddwr yn trafod sut i ddefnyddio a darllen map 1:25000 yn gywir, a thrafod y manylder a gwybodaeth sydd i’w weld. Yn ein tro roeddem yn cael cyfle i arwain rhan o’r daith. Roeddem yn cael marc neu nodwedd arbennig ar y map ac roedd gofyn i ni i gymryd cyfeirlin (bearing) a chamu (paceing) er mwyn cyrraedd y man cywir ar y map. Nid oedd gweddill y criw yn cael gwybod lle oedd y marc ar y map, felly yn yr amseroedd hynny roedd rhaid canolbwyntio a gwneud yn siŵr eu bod yn cymryd cyfeirlin cywir a chyfri eu camau.

Diwrnod 2, roedd pwyslais ar waith rhaffau ar dirwedd serth. Roedd hi’n dywydd gwlyb a llwydaidd felly nid oeddwn yn edrych ymlaen rhyw lawer i fod allan drwy’r dydd. Tua milltir tu allan i Lanberis, uwchben y lon mae ardal serth a charregog. Yno fuon ni drwy’r dydd yn dysgu technegau a clymau gwahanol, a defnydd addas o raffau i gadw pobl yn saff a rhoi hyder. Clymau eithaf syml sydd yn cael ei ddefnyddio felly roedd hi’n ddigon hawdd dysgu ar y diwrnod. Er yr amodau, roedd yn ddiwrnod da ac mi ddysgais lawer o bethau newydd.

Diwrnod 3. Roedd storm fawr ar ei ffordd felly roedd rhaid newid trefn yr wythnos. Penderfynwyd ein bod am fynd allan i gampio heddiw yn hytrach na diwrnod a noson pump. I ffwrdd a ni felly am Nant Gwynant i ddechrau’r alldaith (expedition). Bwriad y ddau ddiwrnod nesaf oedd ymarfer gwaith map eto, a gweld pa mor effeithiol oeddem ni yn campio a’r systemau sy’n cael eu defnyddio yn coginio, cario dŵr a gwersylla heb gyfleusterau, ac yna gwaith map yn y tywyllwch neu mewn gwelededd (visibility) gwael.

Yn ardal Cwm Tregalan oeddem yn gwersylla, ac ar ôl gorffwyso rhywfaint, roedd hi wedi tywyllu digon i fynd allan i ymarfer gwaith map. Fesul un roeddem yn cael darn i arwain. Am gopa’r Aran gyntaf, cyn dod lawr yr ochr arall ac ymuno yn ôl a’r llwybr. Yna aethom lawr i’r hen chwarel a bob ochr i Afon Cwm Llan. Cofiwch mai mis Ionawr oddi felly, allwch chi ddychmygu, roedd hi’n socian dan draed! Er hynny nes i fwynhau a dysgu llawer o driciau bach handi.

Roedd hi’n tynnu am naw o’r gloch a phawb wedi blino, felly aethom yn ôl i’r pebyll i gael bwyd, panad ac es i yn syth i gysgu!

Diwrnod 4. Wedi deffro tua 7:30am ac agor sip y dent i edrych allan, gwelwn fod hi’n fore oer, a’r glaw yn fân. Ar ôl coffi a brecwast roedd hi’n amser pacio bob dim i fod yn barod i adael am naw o’r gloch.

Bwriad y diwrnod yma oedd ymarfer gwaith map eto, ond y tro hyn gyda map graddfa 1:50000. I ffwrdd a ni unwaith eto bob yn ail yn arwain rhannau o’r daith, yn gweithio’n ffordd fyny am gyfeiriad Lliwedd, cyn dod lawr yn ôl am gyfeiriad Nant Gwynant. Roedd hwn yn ddiwrnod annodd achos efo’r oerfel gwynt (wind chill) roed hi’n -4, oedd hi’n bwrw eira, glaw a chenllysg am ran fwyaf o’r diwrnod! Wrth gyrraedd yn ôl am y lôn yn Nant Gwynant, roeddwn mor falch o weld y car, ac yn barod i fynd adra i gael panad call a chynhesu. Ond cyn hynny roedd un tasg arall i’r diwrnod.

Fel rhan o’r cwrs mae’n bwysig gwybod sut mae croesi afon yn saff. Doedd ddim rhaid mynd mewn i’r afon, ond dangosodd yr arweinydd gwahanol dechnegau i ni ar sut i fod yn ddiogel ac effeithiol.

Diwrnod 5. Roedd y storm a’r gwyntoedd cryfion wedi cyrraedd, ac roedd coed a biniau sbwriel yn bob man! Penderfynodd yr arweinydd ein bod am fentro allan, ond aros yn isel a mynd i rywle cysgodol i ymarfer ein gwaith rhaff ymhellach ar dirwedd serth go iawn. Felly i ffwrdd a ni i Gwm Idwal. Dwi erioed wedi bod allan mewn gwynt mor gryf â be nes i’r diwrnod yna! Roedd rhaid mynd lawr a fy nghwrcwd bob rhyw ddeg metr wrth i’r hyrddiadau cryf o wynt ddod amdanaf. Roedd o’n dipyn o hwyl a deud y gwir. O’r diwedd cyrhaeddodd pawb i gefn y cwm mewn un darn, ac roedd hi’n hollol gysgodol yno, fawr dim gwynt. Yno fuon ni am gwpl o oriau yn ymarfer a datblygu ein sgiliau, cyn dychwelyd yn ôl lawr y cwm tuag at y car. Erbyn hyn roedd y storm mwy na lai wedi pasio ac roedd hi dipyn llai gwyntog. Dysgodd hyn i mi bod arweinydd da yn gallu trefnu diwrnod diogel a gwerthchweil, mewn unrhyw amodau!

Diwrnod 6. Oherwydd y storm roedd trefn yr wythnos wedi newid yn llwyr. Roedd bob dim wedi ei drafod, felly treuliwyd y bore fel sesiwn i ni holi cwestiynau i’r arweinwr am unrhyw beth doddem ddim yn siŵr ohono neu rywbeth oeddem yn bryderus amdano.

Yna cafwyd trafodaeth breifat yn gwerthuso’r wythnos; cryfderau a gwendidau, a beth sydd angen ymarfer mwy cyn mynd am yr asesiad.

Felly dyna ni. Dyna ddarlun personol o’m mhrofiad i yn gwneud y cwrs Arweiydd Mynydd.

Wedi amser hir yn pendroni ac ymchwilio, dwi’n hynod falch i mi fynd amdani, a dwi’n teimlo fy mod i wedi dysgu llawer yn ystod y cwrs a datblygu sgiliau gwerthfawr. Dwi’n bwriadu ymarfer dipyn ar y sgiliau, ac yn gobeithio mynd ar yr asesiad yn fuan. Wedi hynny, bydd cyfle i mi roi profiadau tebyg i eraill, a gefais i yn Romania, ac rwy’n edrych ymlaen i ysbrydoli eraill i ddarganfod pa mor gret ydi’r awyr agored!

Diolch yn fawr iawn i’r Bartneriaeth Awyr Agored am y cymorth ariannol, sydd wedi fy ngalluogi i fynychu’r cwrs. A hefyd diolch i Phill a Joe; yr arweinwyr, am wythnos ddiddorol a hwyl. Roedd y profiad yn wych, a dwi wir yn edrych ymlaen i weld pa ddrysau fydd y cymhwyster yma yn ei agor i mi.

 

Latest posts

Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol
Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol
Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol
You might also like...
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael £113,110 o gyllid eto i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Cymru.
Newyddion
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael £113,110 o gyllid eto i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Cymru.
Mae’n bleser gan Y Bartneriaeth Awyr Agored gyhoeddi ein bod wedi sicrhau £113,110 o gyllid am flwyddyn arall i barhau â’i waith hanfodol yn cefnogi gofalwyr di-dâl yn 21 allan o 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Bydd y gefnogaeth ariannol hon eto ein galluogi i barhau i gynnig gweithgareddau a chymorth drwy’r Cynllun Seibiant Byr.
Read More
Cofio Paul Argent
Pobl y Bartneriaeth
Cofio Paul Argent
Yn ei eiriau ei hun ❤️
Read More
Osian Sanderson – o Glwb Antur Dyffryn Peris i Alldaith Caiac Prifysgolion Prydain!
Pobl y Bartneriaeth
Osian Sanderson – o Glwb Antur Dyffryn Peris i Alldaith Caiac Prifysgolion Prydain!
Mae stori antur awyr agored Osian Sanderson yn un o waith caled, ymrwymiad ac ymroddiad, a chefnogaeth gan y Bartneriaeth Awyr Agored.
Read More