Cyn hir bydd gan bobl yng Nghanolbarth Cymru fwy o gyfleoedd i fod yn egnïol ond hefyd i ddysgu a datblygu, diolch i gynlluniau newydd a gyhoeddir heddiw.
Mae Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru (MWSP), y sefydliad newydd sy’n gweithio i roi hwb i lefelau gweithgarwch ar draws Ceredigion a Phowys, wedi cyhoeddi ei bod yn ariannu ei phrosiectau cyntaf erioed drwy ei Chronfa Arloesi.
Gyda chyllid gan Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol, bydd y ddwy fenter fawr yn derbyn cyfran o fwy na £112,000. Bydd yn cefnogi:
- Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n creu Hybiau a Gweithgarwch Corfforol ar gyfer pobl anabl, ynghyd â chyfleoedd i ddatblygu’r gweithlu ar gyfer pobl ifanc.
- Y Bartneriaeth Awyr Agored sy’n sefydlu peilot iechyd a llesiant i bobl â chyflyrau iechyd meddwl yn ogystal â chyfleoedd i bobl ifanc ennill hyfforddiant a chymwysterau arweinyddiaeth awyr agored.
Esboniodd Gemma Cutter, Cyfarwyddwr Rhanbarthol MWSP:
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld ein prosiectau Cronfa Arloesi cyntaf erioed yn dechrau. Rydym eisiau buddsoddi mewn mentrau sy’n mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau a welwn o ran gweithgarwch corfforol yng Nghanolbarth Cymru. Mae cyrraedd y rhai sy’n llai egnïol – yn yr achos hwn pobl anabl a’r rhai â chyflyrau iechyd meddwl – yn hanfodol.
“Rydym hefyd eisiau creu mwy o gyfleoedd yn y dyfodol ac i wneud hynny mae angen i ni gryfhau sgiliau a hyfforddiant. Mae’r ddau brosiect wedi’u cynllunio i roi’r hyder i bobl wirfoddoli neu i ennill sgiliau cyflogadwyedd.”
Mae MWSP yn un o bum Partneriaeth Chwaraeon Rhanbarthol sydd wedi’u sefydlu gan Chwaraeon Cymru i drawsnewid y ffordd y mae cyfleoedd chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol yn cael eu cynllunio, eu cyflenwi a’u hariannu.
Drwy wneud penderfyniadau ar lefel leol, nod MWSP yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau parhaus ac ystyfnig o ran cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Bydd buddsoddiad y Gronfa Arloesi yn cefnogi Chwaraeon Anabledd Cymru i greu Hybiau Gweithgarwch Corfforol ar safleoedd colegau ledled Canolbarth Cymru, mewn partneriaeth â Cholegau Cymru. Nod y prosiect, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, yw cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ond mae hefyd yn anelu at gynnig cyfleoedd i ddysgwyr anabl a heb anabledd wirfoddoli ac ennill cymwysterau chwaraeon.
Esbonia Prif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru Fiona Reid:
“Yng Nghanolbarth Cymru, rydym eisiau sicrhau y gall pobl ifanc – anabl a heb anabledd – aros a chwilio am gyfleoedd gwaith a hyfforddiant yn lleol ar ôl gadael coleg. Bydd yr Hybiau Gweithgarwch Corfforol yn helpu pobl ifanc i ennill cymwysterau a phrofiad a fydd yn gwella cyflogadwyedd hirdymor. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r rhai sydd â nam deallusol neu anghenion Sgiliau Byw’n Annibynnol. Y nod yw y bydd gennym nifer yn fwy o hyfforddwyr a gwirfoddolwyr i gynnal clybiau a sesiynau yn y dyfodol.”
Bydd y fenter yn gweld Chwaraeon Anabledd Cymru yn cydweithio â Cholegau Cymru, a cholegau a phrifysgolion yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid. Os bydd yn llwyddiannus, y bwriad yw y bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno mewn rhannau eraill o Gymru.
Nod prosiect peilot y Bartneriaeth Awyr Agored sy’n cwmpasu Powys a Cheredigion yw defnyddio gweithgareddau awyr agored, megis cerdded bryniau, nofio dŵr oer, canŵio a dringo, i wella iechyd a llesiant pobl ac i helpu pobl iau i ennill sgiliau cyflogadwyedd.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio gyda phartneriaid amrywiol gan gynnwys elusennau iechyd meddwl. Y nod yw helpu pobl i fod yn fwy hyderus i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel y gallant barhau i ddefnyddio mannau gwyrdd i fod yn egnïol, ymhell ar ôl i’r rhaglen ddod i ben.
Yn y cyfamser, bydd pobl ifanc ar draws rhanbarth Canolbarth Cymru yn cael cyfle i fynychu hyfforddiant preswyl i ennill cymwysterau yn y diwydiant awyr agored. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Esbonia Prif Weithredwr Bartneriaeth Awyr Agored Tracey Evans:“Yng Nghanolbarth Cymru, mae gennym ardal chwarae awyr agored enfawr lle mae cynifer o ffyrdd o fod yn egnïol. Nod ein rhaglen iechyd a llesiant yw helpu pobl i fanteisio i’r eithaf ar y mannau a’r gweithgareddau hyn drwy roi’r sgiliau a’r hyder iddynt. Gyda’r buddsoddiad gan MWSP, gallwn hefyd gynyddu nifer y cyfleoedd i bobl ifanc sy’n byw yma gael eu hyfforddi fel bod gennym nifer yn fwy o hyfforddwyr awyr agored lleol yn y tymor hir.”


