Mae’n bleser gan Y Bartneriaeth Awyr Agored gyhoeddi ein bod wedi sicrhau £113,110 o gyllid am flwyddyn arall i barhau â’i waith hanfodol yn cefnogi gofalwyr di-dâl yn 21 allan o 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Bydd y gefnogaeth ariannol hon eto ein galluogi i barhau i gynnig gweithgareddau a chymorth drwy’r Cynllun Seibiant Byr.
Mae’r Cynllun Seibiant Byr yn cael ei gydlynu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a, diolch i gyllid eto gan Lywodraeth Cymru, bydd y cynllun yn rhedeg am flwyddyn arall, tan fis Mawrth 2026.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn cefnogi gofalwyr ifanc di-dâl ledled Cymru, a bydd y cyllid yn sicrhau y bydd cannoedd o’i ofalwyr yn parhau i gael cymorth a seibiant hanfodol. Bydd ei brosiect Seibiant Byr , Amser, yn helpu gofalwyr di-dâl i gael mynediad at amrywiaeth o weithgareddau.
Yn ôl Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
“Mae gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn darparu gofal amhrisiadwy i aelodau’r teulu, ffrindiau ac anwyliaid, ac yn aml ar draul enfawr iddyn nhw’n bersonol. Rydym ni wedi clywed gan filoedd o ofalwyr di-dâl bod y Cynllun Seibiant Byr wedi rhoi’r cyfle cyntaf iddyn nhw gael seibiant oddi wrth ofalu. Mae’r cynllun hwn yn helpu i gynnal gofalwyr drwy rai o’r cyfnodau anoddaf.
“Gyda’r cyllid parhaus o ychydig dros £3 miliwn a fydd yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru drwy Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, bydd sefydliadau gofalwyr lleol a phartneriaid cyflawni yn gallu cyrraedd miloedd yn rhagor o ofalwyr di-dâl gan roi seibiant angenrheidiol iddyn nhw oddi wrth ofalu, tan 2026.
“Rydym wrth ein bodd bod Y Bartneriaeth Awyr Agored wedi llwyddo yn ei gais am gyllid am flwyddyn arall i helpu’r gofalwyr mae’n eu cefnogi yng Nghymru. Gyda’n gilydd, rydym ni’n cynnig achubiaeth i ofalwyr di-dâl ac yn rhoi’r cyfle iddyn nhw gael rhywfaint o gydbwysedd a chefnogaeth yn eu bywydau.”
Yn ôl Tracey Evans, Prif Swyddog y Bartneriaeth, “Rydym yn falch iawn o gael yr arian hwn eto, sy’n cadarnhau eto pa mor bwysig yw cefnogi gofalwyr di-dâl. Mae eu cyfraniadau’n aml yn mynd heb eu cydnabod, ond nhw yw asgwrn cefn ein system gofal iechyd. Mae’r cyllid yn cynnig seibiant angenrheidiol i’r gofalwyr ac i’r bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw, a gall y seibiant hwn fod yr un peth yn eu bywydau sy’n gwneud iddyn nhw ddal ati. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i ddarparu hyd yn oed mwy o gymorth, i ehangu ein gwasanaethau a datblygu mentrau newydd sydd â’r nod o wella lles gofalwyr di-dâl sy’n chwarae rhan mor hanfodol yn ein cymunedau.”



Latest posts