Rrthygl anhygoel yma gan Brett Mahoney, ein Swyddog Datblygu yn Gwent, am weithio gyda gofalwyr ifanc
Mae tystiolaeth eang o bŵer treulio amser yn yr awyr agored er mwyn hybu ein hiechyd a’n llesiant. A dweud y gwir, i’r fath raddau bod antur yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer cyfran sylweddol o’n llyfrau plant, gemau fideo, rhaglenni teledu a ffilmiau. Mae rheswm am hyn… mae’n galluogi pobl o bob oed i gael y cyfle i ddianc ac i gael ymdeimlad o ryddid o fewn cymdeithas sy’n hawlio ein sylw’n barhaus.
Cyn y ffyniant technolegol, dyma sut fyddai pobl ifanc yn treulio eu hanner tymor. Roedd bod y tu allan, yn dringo coed, yn reidio beics neu sglefrfyrddau, ac yn archwilio’r gymuned ehangach yn rhywbeth positif nad oeddem yn ymwybodol ohono ac yn ffordd fforddiadwy i bobl ifanc i gael eu cefn atynt ac i gysylltu gyda chyfoedion a natur.
Symudwn ymlaen i’r Gymru fodern, ac mae’r boblogaeth yn gyffredinol wedi colli’r ddealltwriaeth hon o rym antur ac archwilio ar gyfer ein llesiant, ac wedi ei ddisodli gyda phryder am adael ein plant allan o’n golwg. Mae bygythiadau i’n hawl i grwydro, yn ogystal â chanolfannau addysg awyr agored sy’n cael eu cynnal gan Awdurdodau Lleol a safleoedd mynediad i natur sy’n eiddo i NRW yn cau ym mhobman, yn ei gwneud hi’n fwyfwy anodd i bawb yng Nghymru i gael mynediad i’r awyr agored.
Mae hyn yn gwaethygu ymhellach o ychwanegu rhwystrau ychwanegol. Yn ôl Cyfrifiad 2011, Cymru sydd â’r gyfran uchaf o ofalwyr ifanc di-dâl yn y Deyrnas Unedig gydag oddeutu 30,000 o bobl ifanc yn gofalu am oedolyn neu blentyn anabl yn y cartref.
Datguddiodd arolwg o ofalwyr ifanc 11-18 oed gan The Carers Trust fod y mwyafrif llethol (86%) ohonynt yn teimlo, oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu, eu bod o dan fwy o straen neu’n poeni mwy yn ystod y gwyliau nac yn ystod y tymor, gan ychwanegu at greu cenhedlaeth o blant sydd wedi’u datgysylltu o fyd natur, gyda iechyd meddwl gwael.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio i leihau’r rhwystrau i gael mynediad i weithgareddau awyr agored ac, ers 2023, wedi bod yn cydweithio gyda The Carers Trust a gwasanaethau sy’n ymgysylltu gyda gofalwyr di-dâl ar draws holl ranbarthau Cymru i’w hail-gysylltu gyda’r awyr agored ac antur.
Yn ystod y cyfnod byr hwnnw, mae’r elusen wedi darparu dros 2,000 o gyfleoedd yn rhad ac ddim i ofalwyr ifanc i gael mynediad i gyfleoedd seibiant anturus. Mae’r rhaglenni hyn wedi amrywio o sesiynau blasu mewn gweithgareddau megis dringo creigiau a cherdded mynydd mewn lleoliadau sy’n agos i’w cymunedau, i deithiau preswyl rhad ac am ddim i Eryri a Cheredigion ble cawsant ofod i gael seibiant go iawn i ymgysylltu gyda chyfoedion sydd â phrofiadau byw tebyg tra’n archwilio ein tirluniau hardd.
“Roedd H ychydig yn ofnus am fynd i ogofa gan nad oedd yn adnabod unrhyw un. Mae hi fel yna cyn mynd i unrhyw ddigwyddiad, chwarae teg iddi. Ond, fel roeddwn i’n ei ddisgwyl, daeth yn ôl yn hapus iawn a dweud popeth amdano wrthyf ac am y ffrindiau newydd roedd wedi eu gwneud a’r hyn roeddech chi i gyd wedi bod yn ei wneud.” – Rhiant gofalwr ifanc o Gasnewydd
Pam bod hyn yn bwysig? Mae llawer o’r ddarpariaeth bresennol ar gyfer gofalwyr ifanc yn Nghymru’n ffocysu ar ddarparu seibiant hanfodol trwy weithgareddau megis y sinema neu deithiau bowlio. Mae blaenoriaethu gwaith gyda gofalwyr di-dâl i’w hymgysylltu gyda’r awyr agored – yn ogystal â’r seibiant hanfodol tymor byr y mae pob gweithgaredd yn ei roi iddynt, yn rhoi cariad a phach tuag at natur iddynt, ac yn rhoi profiadau ystyrlon a chofiadwy iddynt tra’n hyrwyddo datblygiad gwytnwch, yn ogystal â sgiliau a strategaethau tymor hir i ddelio gyda heriau bywyd. Mae’r rhain yn gysyniadau y mae gweithwyr proffesiynol awyr agored wedi bod yn ymwybodol iawn ohonynt ers degawdau, ond yn aml yn cael trafferth i’w mynegi o fewn y sector addysg a gwaith cymdeithasol.
Mewn amser ble mae ein hawliau dynol o ran mynediad i natur yn y Deyrnas Unedig o dan fygythiad parhaus, ac rydym yn wynebu’r heriau anochel i gymdeithas sy’n dod yn sgil argyfwng hinsawdd sydd wedi cael ei anwybyddu ers degawdau, mae’n ddyletswydd arnom ni fel gweithwyr proffesiynol awyr agored i roi’r cyfle i bobl ifanc i archwilio’r mannau hyn, er mwyn eu bod yn teimlo cysylltiad gyda nhw ac am eu hamddiffyn.
“Ni fydd neb yn amddiffyn yr hyn nad oes ots ganddynt amdano, ac ni fydd ots gan neb am yr hyn nad ydynt erioed wedi ei brofi”. – Sir David Attenborough
Gwnaed y rhaglenni gofalwyr hyn yn bosibl diolch i gyllid gan Amser, a reolir gan The Carers Trust, a ddarperir drwy Lywodraeth Cymru.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio i wella bywydau pobl drwy weithgareddau awyr agored. Mae gan yr elusen, a sefydlwyd yng Ngogledd Cymru, swyddogion datblygu ar gyfer pob rhanbarth yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
I ddarganfod mwy am eu gwaith ym mhle rydych chi’n byw, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol: https://outdoorpartnership.co.uk/our-team
Ysgrifennwyd gan Brett Mahoney
Brett yw Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Gwent ar gyfer y Bartneriaeth Awyr Agored, sy’n aelod o Dîm Achub Mynydd Longtown, yn hyfforddwr iau gwirfoddol yng nghlybiau Mynydd Du Fell Running and Climbing Clubs ac yn redwr mynydd brwdfrydig.
Latest posts
Darparu seibiant i ofalwyr di-dâl trwy antur…
Darparu seibiant i ofalwyr di-dâl trwy antur…
Darparu seibiant i ofalwyr di-dâl trwy antur…