Rydym yn recriwtio ar gyfer y canlynol:

Ymddiriedolwr Llywodraethu

Un o 8 Ymddiriedolwr, mae hon yn rôl anweithredol a gwirfoddol.  Bydd yr Ymddiriedolwr presennol dros Lywodraethu yn ymddeol yn
ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Medi 2026.Dim ond yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y gellir ethol Ymddiriedolwyr,
ond rydym yn ceisio cyd-ethol Ymddiriedolwr cyn gynted â phosibl i weithio ochr yn ochr â’r deiliad presennol er mwyn sicrhau
trosglwyddiad llyfn.
Fel Ymddiriedolwr, byddwch yn darparu goruchwyliaeth annibynnol a chyngor strategol er budd gorau’r Elusen a’i rhanddeiliaid.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y rôl: Ymddiriedolwr Llywodraethu(WELSH)

 

Sut i Ymgeisio:

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â chyfuniad o sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau o amrywiaeth o gefndiroedd.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant, ac rydym yn annog ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol.
Yn arbennig, rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad a gwybodaeth mewn llywodraethu, yn ogystal â sgiliau a phrofiad o weithio gyda
neu fod yn rhan o Fwrdd Ymddiriedolwyr.
Os oes gennych ddiddordeb ac yr hoffech ragor o wybodaeth am waith y Bartneriaeth Awyr Agored, cysylltwch â Tracey Evans, Prif Weithredwr,
ar 07921700 521 neu e-bostiwch tracey.evans@partneriaeth-awyr-agored.co.uk.

Gellir danfon ceisiadau drwy gyflwyno llythyr cais a CV trwy e-bost i’r Prif Weithredwr.