Chwareli Dyffryn Nantlle a Mynydd Cilgwyn
Pellter: 8km
Hyd: 2.5 – 3 awr
Map: OL17 Yr Wyddfa
Disgrifiad: Taith sy’n codi 250m felly angen lefel da o ffitrwydd. Byddwch yn cerdded drwy chwarel, ar hyd llwybrau cul a grisiau cuddiedig ar y ffordd lawr, felly mae angen bod yn ofalus a chymeryd gofal. Angen tywydd clir i allu dilyn y llwybr os nad yn gyfarwydd efo’r ardal.
Man cychwyn: Canolfan Talysarn, Ffordd yr Orsaf, LL54 6HL. Bysus G4 Gwynfor Coaches yn mynd heibio y Ganolfan.
- Cychwyn yn maes parcio Canolfan Talysarn ewch ar hyd lôn i’r dde sy’n mynd drwy’r pentref, pasio rhesi o dai, ystafell ymarfer Band Nantlle ar eich dde a chapel mawr Hyfrydle sydd ar eich chwith, tuag at y gylchfan ar ddiwedd y lôn. Dyma’r fynedfa i Chwarel Dorothea – chwarel mwyaf Dyffryn Nantlle ar un tro, ar ei hanterth ddiwedd y 19eg ganrif, a’i llechi yn cael eu cludo i Gei Llechi Caernarfon ac yna i ben draw’r byd.
- Dilynwch y trac drwy chwarel Dorothea, ac mae hyn yn gyfle i chi gerdded drwy adfeilion treftadaeth ddiwydiannol Dyffryn Nantlle, sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Byddwch yn troedio llwybr y lein fach gûl a oedd yn arfer cario’r llechi o’r chwareli i lawr i’r Cei yng Nghaernarfon. Ewch drwy’r giatiau a cadw i’ch chwith. Bydd yr hen blasdy hefyd ar eich chwith yma. Dilynwch y trac yn eich blaenau gan basio’r twnnel trên ar y chwith, a’r mynedfa i’r deifiwrs ar y dde. Yna trowch i fyny i’r chwith am hen dŷ fferm Pen-y-bryn, a’r chwarel sydd tu ôl iddo.
- Mae’n dipyn o dynfa i fyny wedyn, wrth gerdded drwy weithfeydd chwarel Cloddfa’r Lôn a Wern Ifan. Mae arwyddion clir yn fan hyn gan ei fod yn rhan o’r Llwybr Llechi.
- Cymerwch seibiant wedi cyrraedd hen gwt mochel Cloddfa’r Lôn a gwerthfawrogi Crib Nantlle, yr Wyddfa a Mynydd Mawr reit o’ch blaenau, pentref Y Fron a Moel Tryfan i’ch chwith, a phentref Nantlle o’ch blaenau. Mae’r llwybr wedyn yn codi eto, ac o gwmpas tomen o rwbel, a bydd angen cymryd gofal yma – ond mae’r llwybr yn amlwg iawn.
- Wedi cyrraedd y giât ar ddiwedd y domen, bydd chwarel Pen-yr-Orsedd ar eich dde – peidiwch â mynd y ffordd yno. Cariwch ymlaen i fyny gan ddilyn y llwybr (wedi’i orchuddio â rhedyn yn yr haf), ac i fyny cae (hefyd wedi’i orchuddio â rhedyn yn yr haf). Mae wedi’i farcio’n amlwg gan ei fod yn rhan o’r Llwybr Llechi.
- Mae hi’n weddol serth, ond mi fyddwch yn cyrraedd tir gwastad yn reit sydyn, a thwll chwarel Cilgwyn a’r trac i’r chwarel reit ar ochr arall y ffens. Mae rhai yn dadlau bod chwarel wedi bod yn Cilgwyn ers y 12fed ganrif – yr hynaf yng Nghymru yn ôl y sôn! Caewyd y chwarel lechi yn 1956, a chafodd ei defnyddio fel arllwysfa sbwriel am ddegawdau cyn i hwnnw gau yn 2009.
- Peidiwch â mynd drwy’r giât mochyn i drac yr hen arllwysfa sbwriel, nac ar hyd yr hen dramffordd i’r dde, ond cariwch ymlaen i fyny ar hyd y llwybr mwd. Bydd Llyn Cob ar y dde i chi. Cadwch i’r chwith wrth gerdded i fyny. Mae nifer o lwybrau defaid yn mynd yma at gopa mynydd Cilgwyn, felly croeso i chi ddewis eich ffordd eich hun i’r top, ond yr un fwyaf amlwg yma ydi’r llwybr sy’n troi at i fyny cyn waliau cerrig yr hen gorlan ar y mynydd.
- Mae mynydd Cilgwyn yn fryn rhwng Carmel a’r Fron, sy’n mesur 347m. Cymerwch amser i fwynhau’r golygfeydd 360 gwych yma o fynyddoedd Dyffryn Nantlle, Yr Wyddfa, Yr Eifl a Phen Llŷn, Bae’r Foryd ac Ynys Môn. Mae ambell i garreg canon o amgylch copa mynydd Cilgwyn hefyd – cerrig oedd yn cael eu drilio, llenwi’r tyllau â phowdr, a’u tanio i nodi achlysuron a dathliadau arbennig mewn ardaloedd chwarelyddol – fel tân gwyllt heddiw! (Mae un da yn Pen-y-Bryn hefyd).
- Ewch i lawr o’r copa gan ddilyn y llwybr mynydd sy’n cadw at y chwith cyn cyrraedd y lôn reit o flaen hen gapel Cilgwyn (sydd bellach yn dŷ). Mae angen dilyn y lôn geir yn syth i lawr yma, gan basio o flaen tŷ pâr. Bydd yna angen troi i’r chwith am fynedfa’r hen arllwysfa sbwriel. Dyma lle mae angen canolbwyntio – yn lle cario mlaen at hen giatiau’r arllwysfa sbwriel (sydd dan glo), mae angen gwyro i lawr i’r dde, o dan y wal lechi (oedd yn arfer bod yn drac inclên), ac mae adwy yn y wal lechi. Ewch drwy’r adwy ac yna’n syth ymlaen drwy’r giât mochyn – Parc Bel ydi’r enw ar y bythynnod yn fan hyn.
- Fan hyn byddwn yn ymuno â hen lwybr Pererindod Cymru. Ar ddiwedd y trac mae angen troi am y llwybr sydd dan wair, heibio adfail Pen Hafodlas a syth i lawr am Talysarn. Mae’r llwybr yn tueddu i dyfu’n wyllt yn yr haf, ac mae cerrig, a grisiau cerrig, dan draed yn gallu bod yn llithrig os ydi hi wedi bwrw, felly byddwch yn wyliadwrus.
- Ar ddiwedd y llwybr – cofiwch gau’r giât rydlyd! – mae’r tir yn agor allan, gyda mynydd Graig Goch a mynydd Garnedd Goch reit o’ch blaenau! Ewch i lawr y trac, ac mi fyddwch yn ôl ar ran gychwynnol y daith, ar y trac i Chwarel Dorothea. Ail-droediwch eich ffordd yn ôl drwy’r trac a’r lôn drwy bentref Talysarn, cyn dychwelyd at y maes parcio.








Latest posts
Triwch Ein Teithiau
Chwareli Dyffryn Nantlle a Mynydd Cilgwyn
Triwch Ein Teithiau
Chwareli Dyffryn Nantlle a Mynydd Cilgwyn
Triwch Ein Teithiau
Chwareli Dyffryn Nantlle a Mynydd Cilgwyn
You might also like...
Newyddion
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael £113,110 o gyllid eto i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Cymru.
Mae’n bleser gan Y Bartneriaeth Awyr Agored gyhoeddi ein bod wedi sicrhau £113,110 o gyllid am flwyddyn arall i barhau â’i waith hanfodol yn cefnogi gofalwyr di-dâl yn 21 allan o 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Bydd y gefnogaeth ariannol hon eto ein galluogi i barhau i gynnig gweithgareddau a chymorth drwy’r Cynllun Seibiant Byr.
Pobl y Bartneriaeth
TOP people
Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol
Mae Elis yn un o’n Llysgenhadon Gwirfoddol. Yn hogyn lleol sy’n byw yng ngogledd Cymru, mae wedi bod yn cysidro gwneud y cwrs Arweinydd Mynydd ers talwm, a chyda cefnogaeth ganddom ni, wedi mynd amdani yn 2025. Mae wedi ysgrifennu am ei brofiad ar y cwrs, ac os ydych chi wedi bod yn ystyried hefyd, … Continued