Cylchdaith Llanbedrog
Pellter: 2.3 milltir / 3.6km
Hyd: 2 awr
Disgrifiad: Mae’r daith gerdded yn serth mewn rhai rhannau ac mae angen gofal ar y llwybr garw wrth ddringo i fyny. Mae’r golygfeydd yn wych ar ôl cyraedd, a’r daith i lawr yn dipyn haws ar y ffordd yn ôl gyda cherdded hamddenol ar hyd traciau clir. Sicrhewch fod gennych esgidiau addas. Nid yw’r daith gerdded hon yn addas mewn amodau gwyntog.
Man cychwyn: maes parcio Llanbedrog ger y traeth – safle Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (LL53 7TT). Mae bysiau 17, 17B a 18 i gyd yn mynd trwy Lanbedrog.
- Mae’r daith yn dechrau o’r maes parcio. Mae toiled cyhoeddus ar gael os byddwch yn troi i’r chwith allan o’r maes parcio tuag at y traeth.
- Wrth adael y maes parcio, croeswch dros y ffordd a cherdded yn syth i fyny’r ffordd i Blas Glyn y Weddw. Byddwch yn mynd heibio prif dŷ y Plas, sydd ag oriel gelf a chaffi, y ddau ar agor i’r cyhoedd.
- Dilynwch y llwybr wedi’i arwyddo (llwybr arfordir) sy’n codi’n raddol drwy’r goedwig. Mae’n mynd yn serth wrth i chi gyrraedd y copa, gyda grisiau ar gyfer rhan olaf i gyrraedd y cerflun o ddyn tin. Gyda golygfeydd gwych ar y copa, mae’n le perffaith am saib ac i dynnu llyniau.
- Cariwch ymlaen heibio y cerflun ar hyd lwybr amlwg. Rydych ar Fynydd Tir Cwmwd, ac mae’r llwybr arfordir yn parhau o amgylch y pentir yma, gan ddisgyn yn raddol ar yr ochr draw.
- Wrth gyrraedd y gwaelod byddwch yn gadael y llwybr mynydd ac yn dilyn y trac gan gadw i’r dde, ac mae’r trac yn troi yn lon darmac. Dilynwch hwn a byddwch yn mynd heibio tai yn rhan uchaf y pentref cyn dod i lawr yr allt i neuadd yr eglwys. Trowch i’r dde eto ar hyd ffordd y traeth sy’n dychwelyd i’r maes parcio






Latest posts
Triwch Ein Teithiau
Cylchdaith Llanbedrog
Triwch Ein Teithiau
Cylchdaith Llanbedrog
Triwch Ein Teithiau
Cylchdaith Llanbedrog
You might also like...
Newyddion
Pobl y Bartneriaeth
CRONFA ARLOESI YN BUDDSODDI MEWN PROSIECTAU GWEITHGARWCH CORFFOROL AR GYFER CANOLBARTH CYMRU
Cyn hir bydd gan bobl yng Nghanolbarth Cymru fwy o gyfleoedd i fod yn egnïol ond hefyd i ddysgu a datblygu, diolch i gynlluniau newydd a gyhoeddir heddiw. Mae Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru (MWSP), y sefydliad newydd sy’n gweithio i roi hwb i lefelau gweithgarwch ar draws Ceredigion a Phowys, wedi cyhoeddi ei bod yn … Continued
Newyddion
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael £113,110 o gyllid eto i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Cymru.
Mae’n bleser gan Y Bartneriaeth Awyr Agored gyhoeddi ein bod wedi sicrhau £113,110 o gyllid am flwyddyn arall i barhau â’i waith hanfodol yn cefnogi gofalwyr di-dâl yn 21 allan o 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Bydd y gefnogaeth ariannol hon eto ein galluogi i barhau i gynnig gweithgareddau a chymorth drwy’r Cynllun Seibiant Byr.
Pobl y Bartneriaeth
TOP people
Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol
Mae Elis yn un o’n Llysgenhadon Gwirfoddol. Yn hogyn lleol sy’n byw yng ngogledd Cymru, mae wedi bod yn cysidro gwneud y cwrs Arweinydd Mynydd ers talwm, a chyda cefnogaeth ganddom ni, wedi mynd amdani yn 2025. Mae wedi ysgrifennu am ei brofiad ar y cwrs, ac os ydych chi wedi bod yn ystyried hefyd, … Continued