Profiadau PAA
Digwyddiad ‘Rock4All’

Darllenwch am y digwyddiad dringo cynhwysol hwn a gynhaliwyd ym mis Tachwedd, 2024.

Yn ystod penwythnos 8 – 10 Tachwedd y llynedd (2024) daeth staff y Bartneriaeth Awyr Agored o ar draws De Cymru, mewn partneriaeth gyda’r Summit Centre a Rock UK Merthyr, gyda nawdd gan Manzoku Climbing and Mountaineering, at ei gilydd i gynnig y Penwythnos Rock4All.

Nod y penwythnos hwn, y penwythnos cyntaf o ddigwyddiadau dringo yn agored i bawb yn Ne Cymru, oedd i ddenu pobl o bob oed a gallu i’r weithgaredd ac i gynnig y cyfle iddynt i brofi’r wefr o ddringo creigiau. Roedd yn benwythnos llawn gyda rhywbeth i bawb. Mynychwyd y digwyddiad gan grwpiau lleol i rannu gwybodaeth am y gweithgareddau oedd ganddynt ar gael a allai fod o ddiddordeb i’r mynychwyr, ac roedd Noson Ffilmiau Antur am ddim gydag ystod eang o straeon i’w gweld.

Agorodd y digwyddiad gyda’r Parti Dringo Uwch Fioled ar y nos Wener. Wedi ei hysbysebu fel “Noson Orau’r Flwyddyn!” ni siomodd ‘chwaith. Dringodd y dringwyr y wal o dan oleuadau uwch fioled, wrth i’r mannau gafael lliwgar dywynnu mewn neon, gyda heriau a gweithgareddau i ddifyrru pawb.

Mae ein pobl ifanc heddiw wedi hen arfer gyda’r byd graffeg cyfrifiadurol, sgriniau, gemau a goleuadau llachar. Beth sy’n arbennig am Ddringo Uwch Fioled Dan Do yw ei fod yn cyfuno dringo gydag elfennau sy’n fwy cyfarwydd i’r genhedlaeth iau ac yn cynnig modd i’w cyflwyno i’r gamp ehangach. Ond does dim cyfyngiad oed i ddringo uwch fioled, mae hwyl yn hwyl beth bynnag yw’r oedran!

Roedd dydd Sadwrn yn amser cystadlu, gydag ystod o ddigwyddiadau, yn cynnwys dechreuwyr, plant, oedolion oedd yn ddringwyr arweiniol, a digwyddiad dringo cyflym gyda teclyn codi â chymorth. Roedd y Bartneriaeth Awyr Agored wedi sicrhau cyllid gan Amser / Short Breaks Wales i alluogi dau grŵp o ofalwyr ifanc i ymuno yn y Parti Dringo Uwch Fioled. Roedd rhai wedi mwynhau cymaint eu bod wedi dychwelyd ar gyfer y cystadlaethau dydd Sadwrn, gydag un bachgen yn ennill y gystadleuaeth ddringo ar gyfer ei grŵp oedran a’i frodyr yn ennill 2il a 3ydd gwobrau. Nid yn unig hynny, mae’r bechgyn hefyd wedi bod yn mynychu sesiynau dringo ers hynny. Nawr dyna beth yw llwyddiant.

Mynychwyd y penwythnos gan hyfforddwyr Climbing 4 All yn ogystal ag aelodau o’r clwb dringo cynhwysol misol sy’n mynychu Summit, gan sicrhau bod digon o arbenigedd wrth law i sicrhau bod y penwythnos yn mynd yn esmwyth. Roedd harneisiau wedi’u haddasu ar gael hefyd i sicrhau bod y gweithgareddau oedd ar gael mor gynhwysol â phosibl.

Daeth digwyddiadau’r penwythnos i ben ar y dydd Sul. Roedd y sesiwn dydd Sul yn cynnwys ystod o gyrsiau hyfforddi a gweithdai ar gyfer gwirfoddolwyr a hyfforddwyr. Roedd hyn yn cynnwys cwrs yn cwmpasu llesiant, a cwrs ar gyfer hyfforddi pobl anabl. Roedd, hefyd, y Cwrs Hyfforddi ac Asesu Cymorthyddion Dringo Dan Do, oedd yn addas ar gyfer gofalwyr, hyfforddwyr cynorthwyol, rhieni ac athrawon dringwyr.

Roedd yn benwythnos gwych o ddathlu dringo. Buom yn addysgu, dysgu, sgwrsio, gwrando, mwynhau ac, wrth gwrs……yn dringo!

You might also like...
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael £113,110 o gyllid eto i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Cymru.
Newyddion
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael £113,110 o gyllid eto i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Cymru.
Mae’n bleser gan Y Bartneriaeth Awyr Agored gyhoeddi ein bod wedi sicrhau £113,110 o gyllid am flwyddyn arall i barhau â’i waith hanfodol yn cefnogi gofalwyr di-dâl yn 21 allan o 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Bydd y gefnogaeth ariannol hon eto ein galluogi i barhau i gynnig gweithgareddau a chymorth drwy’r Cynllun Seibiant Byr.
Read More
Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol
Pobl y Bartneriaeth TOP people
Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol
Mae Elis yn un o’n Llysgenhadon Gwirfoddol. Yn hogyn lleol sy’n byw yng ngogledd Cymru, mae wedi bod yn cysidro gwneud y cwrs Arweinydd Mynydd ers talwm, a chyda cefnogaeth ganddom ni, wedi mynd amdani yn 2025. Mae wedi ysgrifennu am ei brofiad ar y cwrs, ac os ydych chi wedi bod yn ystyried hefyd, … Continued
Read More
Cofio Paul Argent
Pobl y Bartneriaeth
Cofio Paul Argent
Yn ei eiriau ei hun ❤️
Read More