Straeon 5 munund
Mae’r awyr agored i bawb

Mae Esther yn Llysgenad Gwirfoddol efo ni yn Y Bartneriaeth Awyr Agored ac mae hi hefyd yn Hyfforddwr Adferiad a Lles.

Fe wnaethon ni ddod i adnabod Esther pan fynychodd amryw o sesiynau yr oedd Leila, ein swyddog datblygu yng Nghanolbarth De Cymru, wedi’u trefnu. Ar ôl iddi ail-ddarganfod awch am yr awyr agored trwy’r sesiynau hyn, roedd Esther yn awyddus i ymuno â’n tîm, ac fel awdur profiadol, mae hi wedi ysgrifennu am rai o’i phrofiadau gyda ni.

Mae Esther yn gobeithio y bydd ei phrofiadau, a dweud wrth bobl amdanynt, yn ysbrydoli eraill i fynd allan a rhoi cynnig arni. Rydym ni yn y Bartneriaeth Awyr Agored yn credu ei bod yn anhygoel sut mae hi wedi defnyddio’r awyr agored a natur i’w helpu trwy rai heriau meddygol a meddyliol anodd. Ac mae hi’n brawf bod yr awyr agored i bawb!

Cymerwch 5 munud i ddarllen ei hanes o daith ddiweddar i ganolfan awyr agored Dolygaer fel rhan o raglen Amser i Ofalwyr Ifanc Amser, a’r gefnogaeth a’r ysbrydoliaeth a gafodd gan eraill yno. Mae’r rhaglen Amser i Ofalwyr Ifanc Amser yn caniatáu i bobl ifanc sydd â dyletswyddau gofalu brofi gweithgareddau awyr agored am hwyl ac i gwrdd â gofalwyr ifanc eraill. Efallai ar ôl darllen hwn byddwch chi’n cael eich ysbrydoli i fynd allan a rhoi cynnig ar rywbeth newydd eich hun!

Dywed Esther:

“Fel mam sengl sy’n hoff o’r awyr agored, rydw i bob amser yn chwilio am anturiaethau a phrofiadau newydd i mi a Marcus, fy mab 15 oed. Felly pan gynigiodd Leila gyfle i ni gymryd rhan mewn profiad gweithgareddau awyr agored 2 ddiwrnod yn Parkwoods Dolygaer, neidiiais ar y cyfle. Roeddwn i wedi cerdded drwy’r ganolfan ym mis Tachwedd ar daith i baratoi ar gyfer fy hyfforddiant Arweinydd Bryn a Mawndir, ac roeddwn i eisiau mynd â Marcus yno un diwrnod, felly roedd hwn yn gyfle anhygoel.

Fe gyrhaeddon ni yn hwyr yn y bore, a chael setlo yn ein hystafell cyn ein cinio cyntaf. Yna ein gweithgaredd cyntaf. Roedd Marcus a minnau’n mwynhau dringo yn y gorffennol, felly roedden ni’n gyffrous i roi cynnig ar y ‘Squirrel Run’, cwrs rhaffau fertigol i ddau berson ar y tro, ac yna gwifren sip.

Yn aros yn y gwaelod, ac yn rhan o’r tîm o belayers, gwyliais y merched yn y grwpiau eraill yn ymgymryd â’r her, goresgyn eu hofnau, cydnabod ac anrhydeddu eu ffiniau, a chefnogi ac annog ei gilydd. Roedd yn bleser eu gwylio, ac roedd Marcus a minnau yn fwy cyffrous am ein tro ni. Fe wnaethon ni siarad am sut nad oeddem yn mynd i’w droi’n ras, ond gwelais y glint cystadleuol yn ei lygad ac yn gwybod ei fod eisiau fy nghuro! Roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i’n mynd i rasio, ond roedd yn rhaid i mi wneud yn siŵr fy mod i’n cyrraedd y top!

Ar ôl y Squirrel Run, symudon ni i gyd i’r Wifren Sip. Roedd hyn yn edrych yn llawer mwy brawychus – cyfres o risiau ar ochr coeden uchel, sy’n arwain at wifren sip a oedd yn mynd dros y dyffryn. Wrth i ni wrando ar y cyfarwyddiadau diogelwch, penderfynodd Marcus a rhai o’r merched nad oedd y weithgaredd yma iddyn nhw! Ond roedd rhai o’r criw yn benderfynol o’i wneud. Gofynnwyd i mi helpu, clipio’r merched i’r harnais diogelwch, a’u cefnogi wrth iddynt ddringo.

Dyma un o fy hoff rannau o’r holl amser. Er fy mod i wedi oeri gormod i allu cwblhau y ddringfa fy hun yn y pen draw, roeddwn i wrth fy modd yn treulio’r amser hwn gyda’r merched, yn eu cefnogi wrth iddyn nhw ddringo, eu hyfforddi i oresgyn eu nerfau a chyflawni eu nodau. Roedden nhw mor ddewr, mor benderfynol, ac mor gefnogol i’w gilydd. Hyd yn oed pan benderfynodd cwpl ddod yn ôl i lawr, nid oedd gan y grŵp ddim byd ond cefnogaeth ac anogaeth i’r ymdrechion a wnaed, a sicrhaodd eu ffrindiau eu bod wedi gwneud ymdrech fawr.

Ar ôl pryd o fwyd fegan blasus, roeddem yn ôl i’r goedwig ar gyfer crefftgoed. Cafodd y grwpiau y dasg o adeiladu lloches, a wnaethon nhw i gyd yn dda iawn o ystyried pa mor dywyll ac oer oedd hi, ac eisteddodd pawb o gwmpas tân yn dysgu am dân yn ddiogel, a bywyd fel hyfforddwr awyr agored. Cawsom Smores blasus hefyd cyn i bawb setlo i gysgu am y noson.

Y diwrnod canlynol codais yn gynnar i fwynhau taith gerdded wawr. Yn goleuo y ffordd gya fy ffôn, cerddais i fyny tuag at y goedwig, ac yn ôl, taith gerdded o tua 2 filltir. Fel cerddwr brwd, roedd yn gymaint o bleser i mi allu gwneud hyn, ac roeddwn i wrth fy modd pan welais a chlywais fwncath, yn ogystal ac aderyn du, y fronfraith, dryw a robin goch.

Ar ôl brecwast blasus, fe gawsom fynd i ganŵio. Roedd gan un o’r merched lawer o brofiad gyda chanŵio, a pan fu yn rhaid i mi roi’r gorau iddi hanner ffordd drwodd oherwydd poen, roedd hi’n gallu cymryd yr awenau gyda fy ngrŵp. Roedd fy mhoen yn golygu fy mod wedi gadael Marcus gyda’r grŵp, ac er ei mfod yn ddrwg gennyf beidio â gallu cymryd rhan, roeddwn i’n falch ei fod wedi cael mwynhau rhywfaint o’r gweithgaredd gyda chefnogaeth anhygoel gan weddill y criw. Daeth yn ôl gyda gwên fawr ac atgofion hapus o gemau, gwlychu, a lot o chwerthin.

Siaradais â nifer o’r merched am eu profiad yn y ganolfan. Roedd rhai ohonynt wedi mwynhau gweithgareddau awyr agored yn y gorffennol, ond rhai ddim, ac fe ddywedon nhw wrthyf fod eu profiad yn Parkwood wedi eu gadael eisiau mwy. Dyma beth sydd mor wych am Y Bartneriaeth Awyr Agored yn gallu darparu gweithgareddau fel hyn. Heb hyn, efallai na fyddai’r merched hyn wedi gallu cael y profiad o herio eu hunain yn y modd hwn, treulio amser yn yr awyr agored yn yr amgylchedd hardd ger Pontsticill, a darganfod faint y gallant ei gyflawni gyda’r anogaeth gywir.

Latest posts

Mae’r awyr agored i bawb
Mae’r awyr agored i bawb
Mae’r awyr agored i bawb
You might also like...
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael £113,110 o gyllid eto i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Cymru.
Newyddion
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael £113,110 o gyllid eto i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Cymru.
Mae’n bleser gan Y Bartneriaeth Awyr Agored gyhoeddi ein bod wedi sicrhau £113,110 o gyllid am flwyddyn arall i barhau â’i waith hanfodol yn cefnogi gofalwyr di-dâl yn 21 allan o 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Bydd y gefnogaeth ariannol hon eto ein galluogi i barhau i gynnig gweithgareddau a chymorth drwy’r Cynllun Seibiant Byr.
Read More
Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol
Pobl y Bartneriaeth TOP people
Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol
Mae Elis yn un o’n Llysgenhadon Gwirfoddol. Yn hogyn lleol sy’n byw yng ngogledd Cymru, mae wedi bod yn cysidro gwneud y cwrs Arweinydd Mynydd ers talwm, a chyda cefnogaeth ganddom ni, wedi mynd amdani yn 2025. Mae wedi ysgrifennu am ei brofiad ar y cwrs, ac os ydych chi wedi bod yn ystyried hefyd, … Continued
Read More
Cofio Paul Argent
Pobl y Bartneriaeth
Cofio Paul Argent
Yn ei eiriau ei hun ❤️
Read More