Triwch Ein Teithiau
Llyn y Gadair-Nantlle
Pellter: 4 milltir
Hyd: 2 awr
Disgrifiad: Yn weddol wastad, o amgylch llyn a thrwy goedwig yn yr hanner cyntaf, gyda dringfa fach (150m) ar yr ail hanner. Llwybr clir ar hyd y ffordd. Bydd angen esgidiau cyfforddus gyda gafael da ar gyfer y tir anwastad.

Man cychwyn: Maes Parcio Parc Cenedlaethol Eryri – Rhyd Ddu (LL54 6TN). Ar lwybr bws S3 Sherpa.

  • Croeswch y ffordd o’r maes parcio, ac ewch drwy’r giât haearn nodweddiadol. Dilynwch y prif lwybr amlwg, a pharhewch nes i chi fynd dros bont droed gyda giât ar bob pen. Yn fuan wedi’r bont, mae’r trac yn hollti; gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd ar y  llwybr yn parhau i’r chwith, sy’n mynd â chi ar hyd glan Llyn y Gadair.
  • Bydd yn llwybr amlwg o’ch blaen, yn dilyn o gwmpas Llyn y Gadair, ac yn gwyro i’r chwith. Yna ewch drwy giât ac i mewn i ardal y goedwig. Dyma Goedwig Beddgelert , coedwig llydanddail a choniffer.  Pan yn cyrraedd y gyffordd nesaf, cadwch i’r chwith eto a dilynwch y trac wrth iddo fynd ychydig i lawr allt a thrwy giât sy’n croesi’r rheilffordd. Yna rydych wedi cyrraedd Pont Cae Gors.
  • Ym Mhont Cae Gors, croeswch y brif ffordd, trwy’r giât ar yr ochr arall a throi i’r chwith. Dilynwch y trac clir eto sy’n dilyn y ffrwd ar eich dde. Wrth i chi gyclhu o amgylch adeiladau’r fferm (Fridd Uchaf) i’w gweld ar eich dde, byddwch yn dechrau mynd i fyny’r allt. Dilynwch y llwybr i fyny’r allt nes cyrraedd croesffordd amlwg. Dyma bwynt uchaf y daith.
  • Trowch i’r chwith yn y groesffordd ac yn fuan, byddwch yn mynd trwy giât mewn wal garreg fawr. Cariwch ymlaen i lawr y llwybr amlwg wrth iddo fynd i lawr yr allt yn raddol. Dyma’r llwybr i lawr o’r Wyddfa, a bydd yn mynd â chi yr holl ffordd i lawr i’r maes parcio lle gwnaethoch ddechrau’r daith.

Gallwch ddysgu llawer mwy o hanes a gwybodaeth am y llwybr hwn drwy ddarllen erthygl Llio.

Mae Llio yn Llysgennad Gwirfoddol ar gyfer y Bartneriaeth Awyr Agored ac wrth ei bodd yn creu llwybrau a theithiau cerdded o amgylch Dyffryn Nantlle i rannu gyda phobl a dysgu mwy am hanes cyfoethog yr ardal.

Latest posts

Llyn y Gadair-Nantlle
Llyn y Gadair-Nantlle
Llyn y Gadair-Nantlle
You might also like...
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael £113,110 o gyllid eto i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Cymru.
Newyddion
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael £113,110 o gyllid eto i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Cymru.
Mae’n bleser gan Y Bartneriaeth Awyr Agored gyhoeddi ein bod wedi sicrhau £113,110 o gyllid am flwyddyn arall i barhau â’i waith hanfodol yn cefnogi gofalwyr di-dâl yn 21 allan o 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Bydd y gefnogaeth ariannol hon eto ein galluogi i barhau i gynnig gweithgareddau a chymorth drwy’r Cynllun Seibiant Byr.
Read More
Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol
Pobl y Bartneriaeth TOP people
Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol
Mae Elis yn un o’n Llysgenhadon Gwirfoddol. Yn hogyn lleol sy’n byw yng ngogledd Cymru, mae wedi bod yn cysidro gwneud y cwrs Arweinydd Mynydd ers talwm, a chyda cefnogaeth ganddom ni, wedi mynd amdani yn 2025. Mae wedi ysgrifennu am ei brofiad ar y cwrs, ac os ydych chi wedi bod yn ystyried hefyd, … Continued
Read More
Cofio Paul Argent
Pobl y Bartneriaeth
Cofio Paul Argent
Yn ei eiriau ei hun ❤️
Read More