Straeon 5 munund
Merched a’r Awyr Agored

Sut mai! Fy enw i yw Elin a dwi’n Llysgenad Gwirfoddol efo’r Bartneriaeth Awyr Agored. Wrth dyfu i fyny ym mynyddoedd Eryri, datblygais gariad dwfn tuag at yr awyr agored a darganfod cymuned sy’n ymroddedig i wneud gweithgareddau anturus yn hygyrch i bawb.

Graddiais gyda gradd Addysg Antur Awyr Agored ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant eleni, ac ar hyn o bryd rwy’n symud i fyd gwaith yn y diwydiant cyffrous hwn. Rwy’n angerddol am astudiaethau rhywedd a rolau merched yn yr awyr agored, ac ysgogodd hyn fi i ganolbwyntio fy nhraethawd hir blwyddyn olaf ar y rhwystrau a’r cyfleoedd i ferched yn yr awyr agored a nawr fy rôl gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored.

Ers symud yn ôl i Wynedd, rwyf wedi bod yn awyddus i barhau gyda gweithgareddau awyr agored, a chael gwybod am unrhyw raglenni a chymunedau i fenywod yn unig. Ond yn gyntaf, byddaf yn tynnu sylw at rai rhwystrau mae merched yn eu gwynebu i ddangos i chi pa mor bwysig ydi cynlluniau merched yn unig.

Mae’r diwydiant Antur Awyr Agored wedi bod yn adnabyddus ers amser maith am ei ddiwylliant traddodiadol sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, ond mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld sylw cynyddol i amrywiaeth a chynwysoldeb rhywedd. Wrth i’r sgwrs am fenywod mewn mannau awyr agored ennill momentwm, mae’n hanfodol archwilio’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Byddaf yn ymchwilio i’r materion hyn, gyda’r nôd o ddarparu safbwyntiau newydd ar rôl esblygol merched yn yr awyr agored.

Ers blynyddoedd, mae llawer o’r ymchwil a’r trafodaethau sy’n ymwneud â menywod yn y diwydiant awyr agored wedi canolbwyntio ar yr heriau sy’n eu hwynebu, fel rhagfarn rhyw a thangynrychioli.

Rhannodd llawer o fenywod eu bod wedi wynebu rhagfarn rhywedd, boed hynny gan gydweithwyr, cleientiaid, neu hyd yn oed o fewn strwythurau arweinyddiaeth. Mae’r rhagfarn hon yn aml yn arwain at deimlad o gammddeall neu’n anfodlon o fewn gyrfaoedd. Yn ogystal, efallai y bydd merched yn teimlo eu bod yn cael eu tanamcangyfrif neu eu hanwybyddu am rai rolau, er gwaethaf cymwysterau neu brofiad.

Mae’r cysyniad o ‘Y Profiad Benywaidd” yn tynnu sylw at sut mae normau cymdeithasol a rhagfarnau rhywedd yn siapio profiadau merched yn y maes. Wrth i lawer o ferched lywio heriau gyrfa, gall disgwyliadau rhywedd, fel y pwysau i flaenoriaethu bod yn fam neu i ddelio â ffactorau hormonaidd, fod yn rhwystrau i gynnydd gyrfa a boddhad.

Mae ymchwil wedi dangos bod y diwydiant awyr agored, fel llawer o rai eraill, yn tueddu i fod yn llai cefnogol i famau sy’n gweithio. Yn benodol, mae’r diffyg hyblygrwydd mewn oriau gwaith, iawndal cyflog gwael, a heriau rheoli gofal plant yn rhwystrau sylweddol y mae merched yn eu hwynebu. Mae astudiaeth Anja Whittington yn archwilio sut mae’r materion hyn yn effeithio ar yrfaoedd merched yn yr awyr agored, gan nodi bod “gweithio y tu allan i’r cartref wrth dalu am ofal plant yn parhau i fod yn rheswm pam fod merched yn gadael eu swyddi presennol ac yn dewis oriau gwaith mwy hyblyg.” Mae hyn yn aml yn arwain at ferched yn gadael y diwydiant neu’n graddio eu gyrfaoedd yn ôl.

Gall ffactorau hormonaidd, fel mislif a PMS, effeithio’n sylweddol ar les corfforol a meddyliol merched, ond maent yn parhau i fod yn bynciau heb lawer o drafodaeth yn y diwydiant awyr agored. Mae astudiaethau’n dangos bod llawer o ferched yn y maes yn wynebu embaras, rhwystredigaeth, a teimlo yn anghyfforddus oherwydd diffyg ymwybyddiaeth am reoli mislif neu PMS wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. Efallai y bydd merched yn teimlo embaras neu’n rhwystredig oherwydd y diffyg dealltwriaeth, a all arwain i beidio â chymryd rhan mewn gweithgareddau anturus neu ddilyn rôl arwain yn y diwydiant.

Gall cydnabod yr heriau hyn a meithrin amgylchedd mwy cefnogol i ferched arwain at fwy o gynhwysiant a chyfranogiad. Gall modelau rôl benywaidd sy’n trafod yn agored am fislif a PMS helpu i oresgyn y rhwystrau hyn a chreu awyrgylch mwy cefnogol i ferched yn yr awyr agored. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod ffigwr isel o fodelau rôl benywaidd yng Ngwynedd o hyd.

I lawer o ferched yn y diwydiant awyr agored, mae peidio â gweld merched eraill mewn rolau arwain a hyfforddi, neu hyd yn oed ddim yn cymryd rhan mewn gweithgareddau anturus, yn creu teimlad o unigrwydd a hunan-amheuaeth. Os nad oes llawer o fodelau rôl benywaidd i’w gweld, mae’n anoddach gweld eu hunain yn camu i’r rolau hynny.

Gall gweld merched eraill mewn rolau dylanwadol fod yn ysgogiant pwerus, ond mae’r gynrychiolaeth hon yn dal i fod ar goll mewn sawl maes.

Er enghraifft, canfu ymchwil gan Calum Muskett yn 2019 mai “Dim ond 5.5% o Dywyswyr Mynydd Prydain (BMG’s) sy’n ferched heb unrhyw BMG benywaidd yng Nghymru, a dim ond 7.4% o MIC sy’n ferched”.

Yn ogystal, o’r pobl sy’n ymgeisio ar y cwrs Arweinydd Mynydd yn y DU, gyda’r nod o ddod yn arweinwyr, 25% sydd yn ferched, sef yr uchaf y mae erioed wedi bod ond yn dal i fod yn isel.

Efallai bod hyn y teimlo fel sefyllfa negyddol, ond mae newid cadarnhaol yn digwydd yn y diwydiant awyr agored.

Mae cynydd mewn rhwydweithiau cymorth, rhaglenni mentora a chymunedau i ferched, gan helpu i lywio’r maes i gyfeiriad gwell a rhoi teimlad o berthyn i nifer o ferched. Yn hollbwysig, mae cynrychiolaeth yn allweddol—mae gweld merched yn llwyddo yn yr awyr agored yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o anturiaethwyr ac arweinwyr benywaidd.

Isod, rwyf wedi dod o hyd i rai grwpiau a chymunedau ‘merched yn unig’ yng Ngwynedd a Gogledd Cymru, yn ogystal â arweinwyr benywaidd angerddol a chymwys sy’n ymdrechu i wneud yr awyr agored yn lle croesawgar i ferched.

Arweinwyr Benywaidd:

“Mae Louise yn cynnig cyrsiau ac yn arwain amrywiaeth o weithgareddau mynydd a dŵr. yn y Gogledd.”

“Anturiaethau dringo a mynydda, gyda arweinydd hwyliog a chyfeillgar”

“Teithiau cerdded wedi’u trefnu yn Eryri dan arweiniad Arweinydd Mynydd cymwys”

Grwpiau Facebook:

Mum’s Gone Climbing – Cefnogi ac ysbrydoli mamau drwy ddringo

Wild Women Loving Life – Merched ar draws Gogledd Cymru sy’n creu cyfeillgarwch a byw bywyd i’r eithaf

Antur y Ferch Hon – Hwb ar-lein i ferched ledled Cymru gymryd rhan mewn a rhannu cyfleoedd gweithgareddau awyr agored drwy’r Bartneriaeth Awyr Agored a chlybiau cymunedol lleol

Women in Mountain Training – Lle i drafod pynciau sy’n gysylltiedig â Hyfforddiant Mynydd, ceisio neu gynnig cymorth i ferched sy’n dilyn neu sy’n dal ein cymwysterau a dod o hyd i bartneriaid cerdded neu ddringo i’ch helpu i ymarfer sgiliau perthnasol

Digwyddiadau Penodol i Ferched:

Breeze Cycling – Cael mwy o ferched i feicio  i gael hwyl a mwynhau. Mae pencampwyr Breeze gwirfoddol yn trefnu teithiau beic yn eu hardaloedd lleol, gyda digon yn digwydd ar draws Gwynedd

Women Only courses Plas y Brenin – Mae Plas y Brenin yn cynnig cyrsiau arbenigol i ferched. Mae’r rhaglenni hyn yn grymuso ac yn cefnogi merched mewn gweithgareddau fel dringo, caiacio a mynydda

She Climbs, Plas y Brenin – “P’un a ydych chi’n ddechreuwr, canolradd neu’n dringo i safon uchel, fe’ch gwahoddir ar ddydd Gwener 15 – dydd Sul 17 Awst i gymryd rhan mewn gweithdai dringo, cwrdd â merched eraill yn y gymuned ddringo, sgwrsio â llawer o frandiau dringo a gweithwyr proffesiynol a chael hwyl!”

She Paddles, Llyn Tegid, Bala – “Os ydych chi’n ystyried rhoi cynnig ar SUP neu ddim ond eisiau defnyddio’ch SUP fel modd o ffitrwydd, bydd y sesiynau hyn yn berffaith. Mae’r sesiynau hyn ar gyfer pobl 18+ oed sydd eisiau gwella mewn cyflymder neu ffitrwydd. Mae byrddau a rhwyfau ar gael i’w defnyddio”

Latest posts

Merched a’r Awyr Agored
Merched a’r Awyr Agored
Merched a’r Awyr Agored
You might also like...
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael £113,110 o gyllid eto i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Cymru.
Newyddion
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael £113,110 o gyllid eto i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Cymru.
Mae’n bleser gan Y Bartneriaeth Awyr Agored gyhoeddi ein bod wedi sicrhau £113,110 o gyllid am flwyddyn arall i barhau â’i waith hanfodol yn cefnogi gofalwyr di-dâl yn 21 allan o 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Bydd y gefnogaeth ariannol hon eto ein galluogi i barhau i gynnig gweithgareddau a chymorth drwy’r Cynllun Seibiant Byr.
Read More
Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol
Pobl y Bartneriaeth TOP people
Cwrs Arweinydd Mynydd-stori bersonol
Mae Elis yn un o’n Llysgenhadon Gwirfoddol. Yn hogyn lleol sy’n byw yng ngogledd Cymru, mae wedi bod yn cysidro gwneud y cwrs Arweinydd Mynydd ers talwm, a chyda cefnogaeth ganddom ni, wedi mynd amdani yn 2025. Mae wedi ysgrifennu am ei brofiad ar y cwrs, ac os ydych chi wedi bod yn ystyried hefyd, … Continued
Read More
Cofio Paul Argent
Pobl y Bartneriaeth
Cofio Paul Argent
Yn ei eiriau ei hun ❤️
Read More